Yr arlunydd portreadau Alexander Talbot Rice yn lansio'i academi gelf a'i Raglan ysgoloriaethau yn ei gartref hynafiadol ym mharc a chastell Dinefwr Cymru.
Mae'n rhoi gwobrau i enill wyr cystadleuaeth arlunio mewn derbyniad a westeiwyd gan yr ymddiriedolaeth genedlaethol.
Parc a Chastell Dinefwr, Llandeilo, Sir Gâr: Dydd Llun, 16 Mehefin, 2008. Heddiw cyhoeddwyd enillwyr ei gystadleuaeth arlunio i ysgolion yng Nghymru gan yr arlunydd portreadau dawnus 38 oed, Alexander Talbot Rice, sydd yn noddi hyfforddiant mewn celfyddyd gain glasurol i bobl ifanc dawnus. Derbyniodd y naw enillydd eu gwobrau yn ystod derbyniad a westeiwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nhy Newton, Parc a Chastell Dinefwr ar nos Wener, 13 Mehefin. Cymerodd wyth ysgol uwchradd yn Sir Gâr ran yn y gystadleuaeth a derbyniwyd dros 200 o ddarluniau gan fyfyrwyr rhwng 11 a 18 oed ar draws y rhanbarth.
Mae'r gystadleuaeth arlunio'n rhagflaenu lansiad Academi Gelf Alexander Talbot a'r Rhaglen Ysgoloriaethau Elusennol a gynlluniwyd er mwyn rhoi siawns i blant dawnus, na fyddent fel arall yn cael cyfle i ddilyn gyrfa mewn celfyddyd gain, i ddatblygu eu sgiliau mewn canolfannau rhagoriaeth o gwmpas y byd.
Meddai Alexander Talbot Rice:
'Mae'r gwaith a gyflwynwyd ar gyfer y gystadleuaeth hon yn dyst i'r brwdfrydedd a'r ddawn y mae'r fenter hon wedi eu cynhyrchu. Diolch i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mharc a Chastell Dinefwr, rydym wedi cael y cyfle i gychwyn y rhaglen ysgoloriaethau yn Ninefwr, safle y mae ei bridd wedi'i drwytho yn hud a hanes. Yn ogystal â bod yn gartref fy hynafiaid, mae hefyd yn fan yr wyf yn ei garu, man lle cafodd cyfraith Cymru ei hysgrifennu a lle trefnwyd yr Eisteddfodau cyntaf. Fy ngweledigaeth yw creu cymuned o arlunwyr yma a fydd yn rhyngwladol ei chwmpas. Trwy ddarparu cyfle i fyfyrwyr ifanc i hyfforddi mewn academïau ledled y byd, rydym yn bwriadu chwyldroi celfyddyd gyfoes.’
Beirniadwyd y darluniau yn y gystadleuaeth ar y 19 Mai gan yr hanesydd Cymreig adnabyddus Yr Athro Prys Morgan, Alexander Talbot Rice a'r Anrh. Alexandra Foley, Cyfaill i'r Academi. Enillwyr y wobr gyntaf, a ddewiswyd o blith y tri grwp oedran, oedd Carys Jones (Ysgol Tregib), Aloysia Letitia Barnes (Ysgol Tregib) ac Alex Glover (Ysgol Pantycelyn). Caiff yr enillwyr hyn, ynghyd â'r pymtheg ar hugain o ail oreuon, eu cyfweld er mwyn cael cyfle i fod ymhlith y pum plentyn cyntaf i ennill ysgoloriaeth a ariennir gan Elusen Ysgoloriaethau’r Academi. Cynhelir rhaglen gyntaf Ysgoloriaethau'r Academi yn Florence yn ystod gwyliau'r Haf yn 2009.
Meddai'r Athro Prys Morgan, 'Mae'n hollol addas bod y lle hwn, gyda'i draddodiad oesol o noddi'r celfyddydau yng Nghymru, yn byrlymu unwaith eto o fywyd newydd wrth iddo noddi Cymry ifainc a fydd yn arlunwyr y dyfodol.’
Mae Castell Dinefwr, a adeiladwyd yn y 12 ganrif, wedi'i drwytho yn hanes Cymru ac roedd yn blasty i Dywysog cyntaf Deheubarth Cymru, yr Arglwydd Rhys, a oedd yn hynafiad uniongyrchol i Alexander Talbot Rice. Mae hefyd yn gartref i’r gwartheg gwynion sydd yn chwedl Boneddiges y Llyn. Mae Prosiect Adfer Tirlun Hanesyddol Dinefwr yn cael ei weithredu gan bartneriaeth rhwng tri sefydliad - Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De-Orllewin Cymru a CADW, ac fe'i ariennir gan Swyddfa Gyllid Ewropeaidd Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Fel rhan o'r prosiect, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn adfer adeiladau'r cwrt yn Nhy Newton. Yn y dyfodol, gobeithir y bydd y cwrt mewnol yn cynnwys nifer o ystafelloedd a ddefnyddir fel ystafelloedd dosbarth, darlithfeydd a stiwdios celf, a fydd bob un yn dathlu diwylliant celfyddydol. Bydd y Cyrsiau Celfyddyd Gain a gynigir gan yr Academi yn helpu i godi arian i feithrin doniau ifainc mewn celfyddyd gain a gwaith cyfredol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Enillodd Alexander Talbot Rice ysgoloriaeth i astudio portreadu clasurol yn Florence, ac ar ôl hynny, ef oedd y Prydeiniwr cyntaf i astudio yn Academi enwog Repin yn St. Petersburg lle cafodd ei wahodd i ddarlunio Altynia Asylmoratova, prif ddawnswraig bale Kirov gynt. Tri mis ar ôl iddo adael St. Petersburg, gofynnodd Palas Buckingham i Talbot Rice ddarlunio'r Frenhines. Mae ei gomisiynau eraill yn cynnwys EF Dug Caeredin, Dug Westminster, y westeiwraig gymdeithas Americanaidd Mrs. Winston (C.Z.) Guest, a'r diweddar Bobby Short.
|