Ydych chi’n ffansïo cyfarfod â ffrindiau newydd, dysgu sgil a chael hwyl wrth helpu i sicrhau y gall rhai o adeiladau a thirwedd mwyaf ysblennydd Cymru gael eu mwynhau gan bobl o bob oed ymhell i’r dyfodol?
Wel, dyma eich cyfle. Wae’n Wythnos Gwirfoddoli ac mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol lu o gyfleoedd i chi gael hwyl wrth gymryd rhan, waeth beth yw maes eich diddordeb na lefel eich gwybodaeth. Dewch chi â’r brwdfrydedd a’r egni ac fe wnaiff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol eich helpu i gael hwyl yn eu defnyddio.
Efallai gallwch eich gweld eich hun fel gwraig cadw ty yng Nghastell y Waun (darperir gwisg). Neu, os nad ydych yn hoff o wisgo i fyny yna beth am ddefnyddio’ch bysedd gwyrdd fel stiward gardd yn helpu ymwelwyr i ddeall yr amrywiaeth eang o goed a llwyni sydd yng ngerddi’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Os ydych chi’n fwy o berson dan do mae cyfle i chi fod yn stiward ystafell, yn helpu pobl i fanteisio ar eu profiad drwy esbonio hanes a chynnwys rhai o hoff adeiladau Cymru.
 © NTPL / Andrew Butler
Mae’r cyfleoedd gwirfoddoli yma ar gael mewn eiddo ledled Cymru a’r oll sydd ei angen yw brwdfrydedd a diddordeb: bydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn darparu’r wybodaeth, y menig garddio a’r bathodynnau enw.
I’r rhai hynny sydd â bryd technegol, mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol swyddogaethau gwirfoddoli i gynorthwyo gyda gosod technolegau gwresogi ‘gwyrdd’, yn cynorthwyo trydanwyr ac adeiladwyr neu’n pacio a chofnodi dodrefn a mân daclau yn barod ar gyfer gwaith adnewyddu.
Mae gwirfoddoli gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn golygu nid dim ond cael hwyl a threulio amser mewn ac o gwmpas rhai o’n trysorau cenedlaethol mwyaf ardderchog; fe all fod ag oblygiadau tymor hir hefyd. Mae llawer o yrfaoedd mewn pob math o alwedigaethau o ddysgu i reolaeth a gwardeiniaid i gadwraethwyr wedi cychwyn gyda swydd wirfoddol. Gall y profiad fod yn werth chweil yn ogystal ag yn ddiddorol ac mae’n ychwanegiad apelgar mewn CV ar gyfer cyflogwyr mewn pob mathau o ddiwydiannau.
Mae yna gyfleoedd diddiwedd i ddysgu, darganfod a rhannu yn eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ledled Cymru. Felly, os ydych chi’n eich gweld eich hun mewn unrhyw un o’r rhannau a grybwyllwyd uchod neu os gallwch chi drefnu teithiau natur, cwisiau neu helfa drysor yna ffoniwch 01492 863400 am ragor o wybodaeth.
Cofiwch, y cyfan sydd ei angen yw digonedd o frwdfrydedd ac ychydig o amser sbâr. Bydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn darparu’r gweddill.
|