O heddiw ymlaen fe fydd ymwelwyr i Benrhyn Gwyr ym medru cymryd rhan mewn ymgyrch newydd sy’n ceisio diogelu harddwch a bywyd gwyllt yr ardal.
Bydd Siop a Chanolfan Ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Rhosili, Gwyr yn dosbarthu bagiau a menyg i ymwelwyr gan ofyn iddyn nhw helpu cadw’r traethau a’r arfordir yn lan ac yn ddiogel, gyda gwobr i’r rhai sy’n fodlon helpu.
Bant â fe ac enillwch wobr!
Drwy gydol Gorffennaf ac Awst, wrth gyrraedd Rhosili, gall ymwelwyr alw yn Siop a Chanolfan Ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol er mwyn derbyn bag, menyg a chanllawiau diogelwch. Er mwyn diolch am eu cyfraniad i ymgyrch Bant â fe! i ddiogelu Gwyr rhag sbwriel, fe fydd pawb sy’n dychwelyd bag llawn o sbwriel yn derbyn bag jiwt Ymddiriedolaeth Genedlaethol am ddim, a bydd eu henwau yn cael eu rhoi yn yr het ar gyfer ennill y Fasged Fawr Werdd – gwobr arbennig sy’n llawn o nwyddau gwyrdd gwerthfawr.
Mae gwerth dros £200 o nwyddau gwyrdd yn y Fasged Fawr Werdd ac mae’r gwobrau‘n cynnwys eco-degell, llestr gwrtaith, peli peirannau golchi a sychu, bylbiau golau sy’n arbed ynni ar gyfer y cartref cyfan, a chyfarpar bwydo adar, draenogod, ieir fach yr hâf a buchod coch cwta.
Bydd enw enillydd y Fasged Fawr Werdd yn cael ei dynnu o’r het ar ddiwrnod gweithgareddau gwyrdd arbennig i’r teulu ar draeth Rhosili ar Awst 25ain, sef Diwrnod Ffyrdd o fod yn Wyrdd. Yn ystod Diwrnod Ffyrdd o fod yn Wyrdd, bydd ymwelwyr ifanc i Rosili yn dysgu sut i ofalu am yr amgylchedd drwy nifer o weithgareddau rhad ac am ddim fel creu bwydwr adar o ddeunydd sy wedi ei ailgylchu.
Arddangosfa Newydd
Wrth godi neu ddychwelyd eu bagiau sbwriel, mae cyfle i bobl ymweld â’r arddangosfa newydd rhad ac ddim yng Nghanolfan Ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Rhosili sy’n esbonio’r problemau difrifol mae sbwriel yn ei achosi i ardaloedd arfordirol. Mae 'Larry' y môr –grwban lledraidd, model rhyngweithiol, yn caniatau i ymwelwyr ddeall sut yn union mae sbwriel yn peryglu bywyd gwyllt.
Mae plastig yn arbennig o beryglus i fywyd gwyllt, wrth i adar y môr a môr-grwbanod gamgymryd sbwriel plastig am sglefrod môr er enghraifft. Unwaith mae’r plastig yn cael ei lyncu, mae’n medru creu rhwystr yn y system dreulio sy’n golygu bod yr anifail yn llwgu i farwolaeth.
Mae’r arddangosfa hefyd yn dangos sut mae cyfarpar pysgota a mathau eraill o sbwriel yn medru niweidio a lladd pob math o fywyd gwyllt yn y môr ac ar y tir. Yn ogystal â chyflwyniad DVD a gwybodaeth am fywyd gwyllt ac atyniadau lleol mae yna hefyd weithgareddau yn ymwneud â phrosiectau a gwaith yr Ymddirideolaeth Genedlaethol.
Cefnogi achos da wrth siopa
O heddiw ymlaen fe fydd ymwelwyr i Benrhyn Gwyr ym medru cymryd rhan mewn.
Mae gan y Siop a Chanolfan Ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Rhosili, y dewis gorau o lyfrau a mapiau am benrhyn Gwyr yn yr ardal. Mae’r siop hefyd yn gwerthu cyfarpar a dillad ar gyfer gweithgareddau’r awyr agored, nwyddau arbed ynni, cynyrch organig a thraddodiadol a chrefftau lleol. Mae holl elw y siop yn cael ei ddefnyddio i gynnal gwaith yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar benrhyn Gwyr.
Wrth lansio Ymgyrch Bant â Fe!, dywedodd rheolwr Siop a Chanolfan Ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Rhosili, Leigh Freeman:
'Mae Gwyr yn ardal mor arbennig ac rwy’n gwybod bod pawb sy’n ymweld ag ardal Rhosili yn gwirioni ar y lle ac am ei gweld yn cael ei diogelu. Nawr ein bod ni ar drothwy’r misoedd prysuraf yma rydym ni’n gobeithio y bydd pawb yn deall pwysigrwydd mawr ymgyrch Bant â Fe! Rwy’n ffyddiog hefyd y bydd yr ymgyrch yn helpu pobl i sylweddoli bod y traethau ac arfordir sy dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn gwirionedd yn perthyn iddyn nhw ac y byddan nhw felly yn ein helpu i gadw Gwyr yn arbennig i bawb.'
|