Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn lansio apêl i ddiogelu safleoedd Rhufeinig pwysicaf y genedl
Gallai apêl newydd i godi arian i ddiogelu safleoedd eiconig Rhufeinig sydd mewn gwir angen eu cadw a’u trwsio, arwain at ymchwiliadau archeolegol newydd a fydd yn dwysau ein dealltwriaeth o gyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru.
Nod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw codi £400,000 drwy ‘Apêl Prydain Rufeinig’ a fydd hefyd yn helpu i sefydlu profiadau newydd i ymwelwyr sy’n helpu i gadw Prydain Rufeinig yn fyw.
Mae caerau Rhufeinig ym Mharc a Chastell Dinefwr a Mwyngloddiau Aur Dolaucothi yn Sir Gaerfyrddin ymysg y prif brosiectau a fydd yn elwa o ‘Apêl Prydain Rufeinig’ yr Ymddiriedolaeth.
 © NTPL / National Trust
Bum mlynedd yn ôl daethpwyd o hyd i weddillion dwy gaer Rufeinig ym Mharc a Chastell Dinefwr o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ond mae diffyg ariannu wedi golygu fod y safle wedi ei adael fwy neu lai heb ei fforio. Bydd arian o’r apêl yn caniatáu i ymchwil ac archwilio archeolegol ddatgelu’r caerau a’r anheddiad Rhufeinig gerllaw a darparu cyfleoedd cyffrous newydd ar gyfer ymglymiad y cyhoedd wrth i’w hanes gael ei ddatgelu.
Dolaucothi yw’r unig fwynglawdd aur Rhufeinig ym Mhrydain Fawr. Bydd yr arian a godir yn helpu i ddatgelu’n union sut yr oedd y mwynglawdd yn gweithio. Mae’n amlwg fod dwr wedi chwarae rhan fawr yn y broses fwyngloddio yn Nolaucothi ond mae ei faint a’i gymhlethdod yn golygu mai ychydig iawn a ddeellir am y mwynglawdd hyd heddiw. Gwyddys fod dwr wedi llifo ar hyd sianel o 11km o hyd gan gario 2.5 miliwn o alwyni o ddwr y dydd – ond beth fyddai’r Rhufeiniaid yn ei wneud ag o? Bydd ymchwil pellach yn helpu ein dealltwriaeth o’r hyn a ddigwyddai yno yn ôl oddeutu 75A.D. Sut beth fyddai bod yn fwynwr yn Nolaucothi cyn belled yn ôl â hynnyŵ!
Meddai David Thackray, Pennaeth Archeoleg yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: “Fe gafodd y Rhufeiniaid effaith anhygoel ar fywyd, diwylliant a hanes Prydain, o adeiladu ffyrdd a thirfesur i wres canolog a choginio. Lle bynnag yr edrychwch chi mae yna enghreifftiau o’r etifeddiaeth Rufeinig. Mae’n rhaid i ni barhau i wneud yr hyn a fedrwn ni i ddiogelu’r dreftadaeth hon ond hefyd i’w chyflwyno mewn ffordd sy’n hygyrch, yn briodol ac yn gyffrous ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Bydd yr arian a gesglir yn ‘Apêl Prydain Rufeinig’ yn rhoi anadl einioes i rai o safleoedd pwysicaf a mwyaf ysbrydoledig y wlad."
Meddai Tony Robinson, cyflwynydd ‘Time Team’ ar y teledu: “Allwn ni ddim caniatáu i’r hanes Rhufeinig amhrisiadwy lithro i esgeulustod, yn awr nac yn y dyfodol. Mae gwerthfawrogiad o’n gorffennol Rhufeinig yn rhan bwysig o’n dealltwriaeth o bwy ydym ni ac o ble y daethom. Bydd apêl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ein galluogi i ddangos i’r Rhufeiniaid yr hyn y gallwn ni ei wneud iddyn nhw.”
I gefnogi ‘Apêl Prydain Rufeinig’, neu am ragor o wybodaeth, ffoniwch 0844 800 1895 neu ewch i
www.nationaltrust.org.uk/romanbritain
|