Mae Plas Newydd ar Ynys Môn yn gartref i’r hyn sydd yn ddiamau’n furlun mwyaf Rex Whistler. Y rheiny ohonoch chi sydd eto i brofi’r traed gwlyb hynny’n eich dilyn wrth i chi gerdded ar draws ystafell neu’r ci maldodus yn gwrthod ei stiw, mae’n rhaid i chi ddod i ymweld.
Mae’n rhaid ei weld i’w gredu! Ond mae yna lawer mwy i waith celf Rex Whistler na’r murlun sengl hwn er mor syfrdanol ydyw; ac ar benwythnos olaf mis Mehefin mae yna dri diwrnod hudolus o ddigwyddiadau ar thema Rex Whistler yn dod i Blas Newydd i ddathlu, a chyflwyno’r dyn, ei waith a’i fywyd.
A’r fath fywyd oedd o. Cariad diwobrwy, talent am gelfyddyd a ddisgrifiwyd gan ei athro yn Ysgol Gelfyddyd Slade fel ‘y disgybl gorau ers Augustus John’, a marwolaeth drasig, gynamserol gan fom morter ar y diwrnod cyntaf iddo fynd i ryfel yn Normandi. Er ei farwolaeth gynnar yn 39 oed fe adawodd Rex Whistler amrywiaeth drawiadol o waith celf o baentiadau ar raddfa fawr i hysbysebion ac o ddarluniau eglurhaol i ddyluniadau theatr. Mae nifer fawr o’i waith yn cael eu harddangos ym Mhlas Newydd a thros benwythnos Mehefin 27, 28 a 29, cynhelir tri chyflwyniad yn amlygu gwahanol agweddau ar ei waith a’i fywyd.
 ©National Trust
- Ar Fehefin 27, bydd Heather Birchall, Curadur Celfyddyd Gain Hanesyddol, yn Oriel Gelf Whitworth, Prifysgol Manceinion, yn cyflwyno rhai o baentiadau mawr pwysicaf Whistler a’i gampweithiau rhith.
- Yna ar ddydd Sadwrn, Mehefin 28, bydd yr Hanesydd Celf Nikki Frater yn ein tywys drwy ddyluniadau gwisgoedd a setiau ar gyfer y theatr. Fe ymgymerodd â llawer o’r rhain, yn rhyfedd iawn, tra’r oedd yn gadlywydd tanciau yn y Gwarchodlu Cymreig.
- I gloi ar ddydd Sul 28 cawn fewnwelediad i’r dyn a’i fywyd wrth i Peter Simpson fynd â ni ar daith o gwmpas Prydain i gael mewnwelediad gwirioneddol i fywyd a gwaith Rex Whistler o’i ddarluniau cynnar o straeon o’r Beibl a ddarllenwyd iddo gan ei fam, i’r trompe l’oeil anferth a gorfoleddus, neu baentiad ‘twyllo’r llygad’ sy’n awr yn preswylio ym Mhlas Newydd.
Pe bai wedi goroesi, fe fyddai Rex Whistler, heb amheuaeth, yn un o artistiaid mwyaf yr ugeinfed ganrif; bydd y tri digwyddiad yma’n cyflwyno'r dyn a’i waith mewn ffordd a fydd yn swyno newydd-ddyfodiaid ac edmygwyr fel ei gilydd. Os hoffech chi fwy o wybodaeth ar brisiau ac argaeledd ar gyfer y digwyddiadau hyn cysylltwch â Plas Newydd - 01248 714795
|