Digonedd i’w weld a’i wneud
This section of the page features an image gallery, so if you're using a screen reader you may wish to jump to the main content.
Caru Cymru

Ein gohebydd crwydrol, Leni Hatcher
© National Trust
Mae ein gohebydd crwydrol, Leni Hatcher, wedi cychwyn ar daith 12,000 o filltiroedd o gwmpas Cymru. Mae'r siwrnai tri mis yn rhan o ymgyrch ‘Caru Cymru’ yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Bydd Leni yn byw mewn fan wersylla bwrpasol ac yn cymryd rhan mewn cais i dorri record nofio noethlymun, diwrnod swyno pryfed genwair, dringo coed, a llu o weithgareddau awyr agored cyffrous.
Hoff leoedd am bicnic

Picnic teuluol ar y Kymin
Mae na rywbeth arbennig am bacio picnic, llenwi'r fflasg a bwyta allan yn yr awyr agored. Ewch allan i fwynhau'r traddodiad arbennig hwnnw - y picnic teulol. Dyma syniad o rai o'n hoff leoedd i chi fwynhau picnic.
Rhowch dro arni

Rhoi help llaw gyda'r gwaith tŷ yn Llanerchaeron
Torchwch lewys. Pobwch eich bara eich hun yn Erddig, rhowch dro ar odro'r fuwch neu'r gwaith ty yn Llanerchaeron. Ymunwch a'r gwarchodwyr yng Nghastell y Waun neu ymlaciwch o amgylch y bwrdd ym Mhlas Newydd a'r Gerddi gan edmygu gwaith arlunio Rex Whistler.
Amser te
Ymlaciwch yn ein hystafelloedd te gan fwynhau prydau o gynhwysion lleol. Dim ond cynnyrch tymhorol a ffres sydd i'w cael ar ein bwydlenni. Dyma rai o'n hoff brydau. Rhowch dro arnynt adref fel y gall pawb eu mwynhau.
Diwrnodau allan i grwpiau
Cewch hyd i'r cyfan sydd angen arnoch i drefnu diwrnod allan i'w gofio ar gyfer eich grwp. O erddi gwych i dai a lleoedd llawn hanes. Beth bynnag fo'ch diddordebau mae yna deithiau arbennig i'ch ymddiddori.
Am dro i Sir Benfro

Penrhyn Ty Ddewi yn Sir Benfro
Darganfyddwch y Bannau

Cerddwyr ar Corn Du ym Mannau Brycheiniog
Crwydrwch Eryri

Cerddwyr ar lwybr Watcin sy'n arwain i gopa'r Wyddfa
Cestyll a thai ysblennydd
Gerddi gwych
Yr awyr agored
