Skip to content

Diwrnodau allan i'r teulu yng Llanerchaeron

Teulu’n chwarae yn yr awyr agored, Llanerchaeron, Ceredigion, Cymru
Teulu’n chwarae yn yr awyr agored, Llanerchaeron, Ceredigion, Cymru | © National Trust Images / John Millar

Mwynhewch ddiwrnod yn crwydro gerddi, stablau traddodiadol, iard fferm, llyn a thir yr Ystâd. Gweld pa anifeiliaid sydd ar fuarth y fferm ac ymweld â’r certi hynafol, y tractorau a’r rholer stêm yn yr ysguboriau. Gadewch i’r plant archwilio byd natur, gweld bywyd gwyllt lleol a chymryd rhan yn ein gweithgareddau tymhorol.

Hanner tymor mis Mai (25 Mai i 2 Mehefin)

Dihangwch i fyd llawn hwyl gwledig yn ystod hanner tymor mis Mai eleni yn Llanerchaeron. Dewch i sgrialu ar hyd llwybrau ar feiciau cydbwysedd, rhoi cynnig ar gwblhau’r cwrs rhwystrau pren, neu fynd ati i ddilyn llwybr coed i ganfod faint o wahanol goed allwch chi eu gweld wrth ichi grwydro’r ardd furiog a’r llwybrau glan llyn.

Dewch i weld Cwrt Gwasanaeth y Fila Sioraidd gyda’i laethdy, becws, ystafell halltu, a golchdy sych. Ewch draw i’r sgubor i weld y casgliad o hen dractorau, offer fferm ac injan rowlio yng Nghasgliad Geler Jones.

Yr ystafell chwarae a’r ardal chwarae wair

Beth am gael gêm o dennis bwrdd a phêl-droed bwrdd gyda’r teulu yn ystafell chwarae yr Hen Stablau? Neu stompio yn yr ardal chwarae dŵr a thywod a chael hwyl yn yr ardal chwarae wair newydd ar y buarth?

Anifeiliaid fferm

Cyn troi am adref, cofiwch ddweud helô wrth y moch, lloi, dofednod, defaid Llanwenog, a Seren a Tomos y cobiau Cymreig 19 oed ar y buarth traddodiadol. Welwch chi dair cath Llanerchaeron hefyd?

Mae digonedd o bethau i ddiddanu pawb yn Llanerchaeron.

Cymerwch ran yn ein digwyddiadau teuluol drwy gydol y flwyddyn. Mae gwybodaeth am y digwyddiadau sydd ar y gweill ar gael yma.

Teithiau cerdded byr

Ymgollwch ym myd natur a mwynhau harddwch y gerddi, y llyn a’r coetiroedd. Mae tiroedd Llanerchaeron yn cynnig digon o gyfleoedd i archwilio llwybrau gwastad, hygyrch. Mae’r daith fer, gylchol o amgylch y llyn, y stablau a’r iard fferm, i’r tŷ a’r gerddi muriog yn hygyrch i gadeiriau olwyn neu bramiau.

Cynllunio eich ymweliad gyda’r teulu

I’ch helpu i gynllunio’ch diwrnod allan ymlaen llaw, dyma ychydig o wybodaeth allweddol:

· Gallwch ddod o hyd i'n holl oriau agor yma ar gyfer gwahanol rannau'r ystâd. Cynghorwn eich bod yn cael golwg ar ein horiau agor cyn i chi deithio oherwydd gall amseroedd agor newid yn dibynnu ar y tymor.

· Cymerwch ran yn ein digwyddiadau hwyliog trwy gydol y flwyddyn. Gallwch bori drwy’r cyfan yma.

· Mae croeso i gŵn ar dennyn o gwmpas y rhan fwyaf o’r ystâd ac yn y caffi. Darllenwch fwy am ymweld â’ch ffrind pedair coes yma.

· Mae toiledau anabl a chyfleusterau newid ar gyfer babanod yn yr adeilad ymwelwyr wrth y maes parcio, a gyferbyn â’r stablau.

· Gellir gweld prisiau mynediad ar ein tudalen we yma (Gall aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gael mynediad am ddim).

· Os ydych chi’n ymweld â chadair olwyn neu bram, mae mynediad gwastad o’r maes parcio i’r tŷ, yr ardd furiog, o amgylch y llyn ac iard y fferm. Sylwch y gallai rhai llwybrau coetir fod yn anaddas. Os oes angen cymorth neu ragor o wybodaeth arnoch chi, gofynnwch i aelod o’n tîm cyfeillgar.