Skip to content

Archebu eich ymweliad â Thŷ’r Masnachwr Tuduraidd

Y neuadd siambr yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Sir Benfro
Y neuadd siambr yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd | © National Trust Images/Chris Lacey

Yn yr erthygl hon fe welwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am sut i archebu eich ymweliad â Thŷ’r Masnachwr Tuduraidd, a beth i’w ddisgwyl wrth gyrraedd.

Sut i archebu

Archebwch un tocyn fesul person, ac eithrio plant dan 5 – does dim angen tocyn arnyn nhw. Bydd angen i aelodau ddod â’u cerdyn aelodaeth gyda nhw, a bydd angen i bobl sydd ddim yn aelodau dalu ymlaen llaw.

Mae pob taith yn para 45 munud. Amseroedd y teithiau yw:

  • 11am

  • Hanner dydd

  • 2pm

  • 3pm.

Cyrhaeddwch 10 munud cyn amser eich taith, os gwelwch yn dda.

Mae’r tocynnau at eich defnydd chi yn unig, ac ni ellir eu hailwerthu.

Byddwn yn anfon cadarnhad o’ch archeb atoch dros e-bost. Sicrhewch eich bod yn nodi eich cyfeiriad e-bost cywir wrth archebu i sicrhau eich bod yn cael eich cadarnhad.

Archebu eich ymweliad

Cadarnhewch fod lle ar gael ac archebwch eich ymweliad â Thŷ’r Masnachwr Tuduraidd.

Newid eich archeb

Os gwnaethoch greu cyfrif wrth wneud eich archeb, byddwch yn gallu newid dyddiad/amser eich archeb ar-lein hyd at 24 awr cyn dyddiad eich ymweliad, neu drwy ffonio 0344 249 1895.

Os ydych chi’n aelod ac nad ydych yn gallu dod mwyach, rhowch wybod i ni drwy ein ffonio ar 0344 249 1895.

Wrth gyrraedd

Mae’r tŷ wedi’i leoli ar stryd gefn gul rhwng Sgwâr Tudur a’r harbwr. Mae rhywfaint o barcio ar gael o fewn muriau’r dref. Defnyddiwch y maes parcio talu ac arddangos neu gallwch barcio a theithio (misoedd yr haf yn unig) o faes parcio Salterns.

Sicrhewch fod y cadarnhad o’ch archeb gyda chi i’w ddangos i’n staff (naill ai ar eich ffôn neu wedi’i argraffu). Os ydych chi’n aelod neu’n wirfoddolwr, bydd angen i chi ddangos eich cerdyn aelodaeth neu wirfoddolwr hefyd.

Visitor with costumed interpreter at Tudor Merchant's House, Pembrokeshire

Trefnwch eich ymweliad

Mae angen cadw tocynnau ar gyfer Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd. Gallwch archebu ar gyfer heddiw hyd at 8am. Bob dydd Iau bydd slotiau amser yn dod ar gael ar gyfer y 14 diwrnod nesaf.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o stryd Dinbych-y-pysgod a’r harbwr
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Thŷ’r Masnachwr Tuduraidd 

Darganfyddwch gartref masnachwr Tuduraidd cyfoethog yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd. Cewch flas ar fywyd masnachwr canoloesol poblogaidd yn oes y Tuduriaid yn y lle arbennig hwn.

Yr ardal fasnachu yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Sir Benfro, sydd â tho isel â thrawstiau pren, llawr fflags, casgenni a bwrdd ochr gwyrdd gyda phowlenni terracotta arno.
Erthygl
Erthygl

Hanes Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd 

Yn oes y Tuduriaid roedd Dinbych-y-pysgod yn ganolbwynt i fasnach dramor ac yn mewnforio amrywiaeth eang o nwyddau o Ffrainc. Cymerwch olwg yn siop brysur y Masnachwr Tuduraidd.