Diogelu Tŷ Mawr ar gyfer y dyfodol
Bydd Tŷ Mawr Wybrnant yn elwa ar fuddsoddiad mawr yn 2024 hyd at ganol 2025 er mwyn mynd i’r afael â diffygion hirdymor, gan gynnwys lleithder. Mae’r buddsoddiad yn bosibl yn sgil arian a gafwyd gan rodd fawr a chyllid gan ymddiriedolaethau elusennol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Beth yw’r broblem?
Mae dŵr yn treiddio i mewn i’r adeilad trwy’r talcen deheuol (y wal y tu ôl i’r lle tân yn y brif neuadd), gan achosi difrod mawr i’r adeiladwaith, yn cynnwys y linter dderw uwchben y lle tân, sy’n nodwedd wreiddiol.
Mae llun o Tŷ Mawr o’r 1880au yn dangos mai wal fewnol oedd y talcen deheuol mewn gwirionedd, ac roedd y rhandy yn amddiffyn y wal honno rhag yr elfennau yn yr amgylchedd glawog yma. Hyd yn oed ar ôl i’r ffermdy gael ei foderneiddio ganrif yn ddiweddarach, ceir tystiolaeth bod lleithder yn broblem barhaol – fel y gwelir mewn llun o’r talcen a baentiwyd gyda bitwmen ym 1985.
Yn y blynyddoedd diwethaf, gwelir bod mwy a mwy o ddŵr yn dod i mewn, gan effeithio’n fawr ar du mewn yr adeilad. Mae’r adeilad wedi’i ail bwyntio sawl gwaith yn y gorffennol er mwyn ceisio atal dŵr rhag treiddio i mewn iddo, ond mewn gwirionedd mae dŵr yn treiddio i mewn yn bennaf oherwydd agennau yn y gwaith cerrig ei hun a hefyd oherwydd graddiant y wal dalcen sy’n gogwyddo at i mewn.
Sut y byddwn yn datrys y broblem?
Ar ôl ystyried ystod o ddatrysiadau, cynigiwn orchuddio’r talcen deheuol gyda llechi lleol wedi’u hadennill. Byddwn yn gwneud hyn mewn modd a fydd yn gydnaws ag ysbryd y lle. Sylweddolwn y bydd hyn yn effeithio ar bryd a gwedd y ffermdy, ond credwn mai dyma’r peth gorau i’w wneud i atal dŵr rhag treiddio i mewn i’r adeilad ac achosi difrod yn yr hirdymor.
Bydd hyn yn amddiffyn yr adeiladwaith am genedlaethau i ddod, bydd yn adfer y trawst derw uwchben y lle tân a bydd yn gwella’r amodau amgylcheddol oddi mewn i’r tŷ yn barod ar gyfer dychwelyd y casgliad Beiblau.
Beth arall fydd yn digwydd?
Byddwn hefyd yn ailosod y grisiau ysgol serth gyda grisiau ar raddiant mwy confensiynol a byddwn yn gosod canllaw pren sefydlog er mwyn ei gwneud hi’n haws dringo i’r llawr cyntaf.
Hefyd, bydd y prosiect yn gwella’r modd y caiff y casgliad Beiblau ei arddangos a’i ddehongli, er mwyn amlygu mwy ar hanes gwaddol William Morgan.
Pryd fydd hyn yn digwydd?
Yn ôl pob tebyg, bydd y gwaith yn cael ei wneud trwy hydref a gaeaf 2024/25, yn amodol ar gael y caniatâd perthnasol.