Diwedd y cyfnod tunplat yn Aberdulais

Y Bastiwn a phwll yr olwyn ddŵr yn dadfeilio

Fe ddaeth y diwydiant tunplat Cymru – a arloeswyd yn Aberdulais – â chyfoeth helaeth i ddynion busnes Fictoraidd. Ond llwyddiant dros dro oedd hwn.

Roedd yr Americanwyr – ein cwsmeriaid gorau, yn fwy na thebyg – yn awyddus i ddatblygu eu gwaith gweithgynhyrchu tunplat eu hunain, diolch i raddau helaeth i Gymro mentrus a aeth â’r syniad draw dros yr Iwerydd a dweud wrth bobl yn yr UDA y gallai atgynhyrchu tunplat yn rhatach yno.

Ac felly llwyddodd cyngreswr ifanc, uchelgeisiol - William McKinley – i berswadio’r Gyngres i osod trethi uchel ar fewnforion tunplat o Gymru. Roedd cyfnod llewyrchus Aberdulais yn dod i ben.

O fewn ychydig flynyddoedd, roedd y Gweithfeydd Uchaf – gyda’u technoleg a yrrwyd gan ddŵr – wedi cau ac roedd y gweithwyr wedi symud i’r Gweithfeydd Isaf gyda’u dulliau mwy modern.

Gweithfeydd Isaf Aberdulais
Gweithfeydd Isaf Aberdulais

Yr awr dywyllaf

Dyma awr dywyllaf Aberdulais. Oerodd y ffwrneisi a arferai fod mor danllyd o boeth. Lledodd natur yn raddol fach i adennill y rhaeadr bwerus a’r adeiladau o’i hamgylch.

Cafodd swyddfeydd y gweithfeydd eu troi’n dŷ preifat. Yn 1915, prynwyd Tŷ Dan-y-graig gan feddyg teulu lleol, Dr John Prell, a ddefnyddiodd Lyfrgell yr Hen Weithfeydd – ein hystafell de erbyn hyn – fel meddygfa.

Yn y 1950au roedd yn eiddo i feddyg arall, Norman Thomas, a werthodd y safle cyfan i Gyngor Bwrdeistref Castell-nedd yn 1975.

Ond roedd adeiladau’r hen weithfeydd tunplat yn parhau i fod heb eu cyffwrdd. Roedden nhw’n lle chwarae braf, cyfrinachol i genedlaethau o blant lleol. Heddiw mae’r plant hyn yn fam-guod ac yn dad-cuod, ond maen nhw’n parhau i rannu straeon am yr hwyl a’r sbri yr oedden nhw’n arfer ei gael ar y safle.