Lluniau Priodas yn Aberdulais

Dyma’ch diwrnod arbennig chi. Mae angen cefndir hardd arnoch i gofio diwrnod eich priodas. Does dim angen i chi edrych ymhellach...
Arlliwiau ysgafn o wyrdd a gwyn i gyd-fynd â’r tusw blodau – cenllif o ddŵr, weithiau’n dawel, weithiau’n wyllt. Beth allai fod yn fwy rhamantus na rhaeadr fel cefndir i’ch lluniau priodas?
Mae ein golygfeydd ysblennydd yn gwneud Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais yn gefndir rhamantus i’ch albwm priodas.
Mae’r costau perthnasol fel a ganlyn:
- £60 fesul sesiwn ffilmio, am hyd at 30 o westeion (yng nghwmni aelod o staff Aberdulais)
- Mae mynediad am ddim i’r briodferch, y priodfab, y ffotograffydd (ffotograffwyr) a’r fideograffwyr.
- Rhaid i niferoedd gwesteion sy’n fwy na 30 fod yng nghwmni staff a byddwn yn codi cyfradd o £2.50 fesul gwestai ychwanegol
- Mae mynediad am ddim i blant o dan 5 oed.
Nodiadau
- Yn dibynnu ar y dyddiad rydych am ddod i’r safle i dynnu lluniau mae’n bosibl y byddwn ar agor i’r cyhoedd cyffredinol.
- Holwch adeg trefnu dyddiad.
- Nid yw’r prisiau’n cynnwys TAW.
- Bydd gwesteion yn talu unrhyw gostau ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys mynediad i’r safle y tu allan i oriau.
- Mae’r Tâl Priodas yn cynnwys lluniau llonydd a ffilmio fideo.
- Mae’r prisiau’n cynnwys defnydd llawn o’r safle.
Nid yw’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofyn i chi ddefnyddio cyflenwr penodol, nag yn mynnu hawlfraint ar gyfer unrhyw un o’r lluniau, ond byddwn yn ddiolchgar pe byddai’r gwesteion yn barod i’w cyflenwi i ni at ddibenion hyrwyddo.
Lle y bo’n bosibl rydym yn argymell bod y Briodferch a/neu’r Priodfab a’r ffotograffydd yn cerdded trwy’r safle gyda ni cyn eu diwrnod arbennig i sicrhau eu bod yn hapus gyda’r lleoliad ac i drafod unrhyw ofynion penodol.
Ffurflen archebu ffotograffiaeth Aberdulais (PDF / 0.1171875MB) download