Llyfrau ail-law

Siop lyfrau ail-law Aberdulais

Neges i’r holl lyfrbryfed....

Dewch i weld ein “Llyfrgell Gwaith Newydd”, sef trysorfa o lyfrau ail-law, sydd eisoes wedi rhoi llawer o bleser, ac sy’n aros am gartref newydd.

O hunangofiannau i nofelau ffuglen, llyfrau coginio i gyfeirlyfrau, mae yma amrywiaeth ryfeddol o lyfrau at ddant pawb.

Ry’n ni hefyd yn tueddu i gael detholiad o lyfrau plant a chylchgronau i’r cartref.

Galwch heibio i bori; pwy a ŵyr pa berlau y llwyddwch chi ddarganfod ar ein silffoedd.

Os oes gennych unrhyw lyfrau sy’n chwilio am gartref newydd, byddwn yn falch o’u cael ar gyfer siop lyfrau Aberdulais.