Laura McLaren o Ardd Bodnant

Laura McLaren of Bodnant Garden

Roedd Laura McLaren (1854-1933) yn ddynes a hanner. Roedd hi’n arddwraig o fri, yn arlunydd dawnus ac yn ddynes fusnes lwyddiannus – ac ar ben hyn i gyd roedd hi hefyd yn ymgyrchydd gwleidyddol, yn siaradwraig huawdl ac yn ysgrifennu’n wych.

Roedd hi’n doriad o’r un brethyn â’i rhieni. Roedd ei thad yn entrepreneur llwyddiannus ac yn Ryddfrydwr radical; roedd ei mam yn arwain y gad i ennill pleidlais i fenywod. Magwyd Laura yng nghanol tlodi a ffyniant Manceinion yn ystod Oes Fictoria. Bu farw pedwar o’i brodyr a’i chwiorydd pan yn blant bach ac roedd hi’n wyth oed pan effeithiodd y ‘Cotton Famine’ ar ffatrioedd gogledd Lloegr. O oedran ifanc fe welodd ei rhieni yn ymdrechu i wella cyflwr bywyd pobl yn Salford ac roedd hi’n aml yn mynychu eu cyfarfodydd gwleidyddol. Yn 1868, a hithau ond yn 14 oed, aeth i gyfarfod y Manchester National Society for Women’s Suffrage – yr union gyfarfod lle cychwynnodd yr ymgyrch i roi pleidlais i fenywod – a chlywed ei thad a’i mam yn areithio.

Roedd gwleidyddiaeth yn agos at galon Laura, fel ei rhieni. Roedd yn weithgar o oedran ifanc – yn sgwennu pamffledi, llythyron ac erthyglau i’r wasg ar bob math o bynciau, o ffasiwn i hawliau menywod. Yn 1877 priododd Charles, bargyfreithiwr a oedd yn aelod o deulu o Grynwyr o’r Alban. Roedden nhw hefyd yn ymgyrchwyr brwd; roedd Charles yn nai i’r aelodau seneddol rhyddfrydol Jacob a John Bright, ac roedd Priscilla, ei mam yng nghyfraith, yn ymgyrchu yn erbyn caethwasiaeth ac yn flaengar yn y frwydr i gael pleidlais i fenywod.

Yn 1895 daeth Bodnant i feddiant Laura, wedi i’w brawd orfod ildio’i etifeddiaeth oherwydd priodas anaddas ac am iddo ddwyn gwarth ar y teulu o ganlyniad i achos llys. Gweithiodd Laura yn ddyfal i ddatblygu’r stad a’r ardd. Yn 1901 trosglwyddodd y cyfrifoldeb dros yr ardd i’w mab hynaf, Henry, ar ei benblwydd yn 21 oed, a hynny er mwyn iddi hi ei hunan ganolbwyntio ar fywyd gwleidyddol. 

O’i chartref yn Llundain bu’n gweithio gyda’r National Union of Women’s Suffrage Societies yn darlithio, sgwennu pamffledi a cheisio ennyn cefnogaeth y llywodraeth. Roedd ei merched Florence ac Elsie yno hefyd yn ei helpu, ac roedd ei mam a’i mam-yng-nghyfraith yn gefn iddi. Roedd dynion y teulu hefyd yn gefnogol – bu ei meibion Henry a Francis, a hefyd ei gŵr Charles, yn aelodau seneddol Rhyddfrydol.

Lloyd George

Nid oedd Laura yn cefnogi dulliau milwrol o ymgyrchu. Roedd yn y rali yn yr Albert Hall yn 1908 pan aeth pethau’n draed moch wrth i’r swffragetiaid heclo Lloyd George. Apeliodd ar bobl i ymdawelu:

“The suffragist party say they have declared a war but even in war there are things which are not done. One thing is to poison springs. I contend that by violence women poison that spring of pity and trust which wells up in the heart towards the unenfranchised sex.”

Yn 1909 fe ysgrifennodd Laura ‘The Womens’ Charter of Rights and Liberties’ ar gyfer yr International Woman Suffrage Alliance. Yn ystod y Rhyfel Byd 1af fe wnaeth hi droi ei chartref yn Belgrave Square, Llundain, yn gartref nyrsio i filwyr. Cafodd CBE am hyn.

Yn ddiweddarach datblygodd Laura ardd nodedig yn y Chateau de la Garoups yn ne Ffrainc a derbyniodd y ‘Victoria Medal of Honour’ gan yr RHS yn 1931. Bu farw Laura yn y Chateau yn 1933 (bu farw ei gwr yno hefyd flwyddyn yn ddiweddarach) a dychwelwyd ei chorff i Ardd Bodnant lle mae hi wedi ei chladdu yn ‘The Poem’ ochr yn ochr ag aelodau eraill o’i theulu.

Wedi ei marwolaeth, disgrifiwyd Laura fel un o arddwriaethwyr mwyaf Ewrop ym mhapur newydd ‘The Times’. Nododd y papur hefyd ei bod yn ‘capable woman of business, with the ready grasp and the courageous power of decision that enabled her to weigh big problems with the brain of a man”.

Tybed beth fyddai ymateb Laura wedi bod wrth ddarllen hyn! Mae’n hawdd dychymgu, o ddarllen un arall o’i ddyfyniadau : “ What women hate is not mankind, but man’s thoughtless injustice, his complacent satisfaction – when he offers women dross for gold and calls it chivalry”.

Article on women of the suffrage movement from the Daily Chronicle, July 7 1910
Article on Laura McLaren and women of the suffrage movement from the Daily Chronicle, July 7 1910
Article on women of the suffrage movement from the Daily Chronicle, July 7 1910