
Mae dau gopa uchaf canol Bannau Brycheiniog ym Mhowys yn codi’n uchel uwchben y dirwedd ac mae’n bosib eu gweld o bellter mawr. Mae ffurf y grib yn un o’r golygfeydd mwyaf adnabyddus yn y Deyrnas Unedig.

Diweddariad Coronafeirws
Rydyn ni'n ailagor y lleoedd rydych chi'n eu caru, yn raddol, yn ddiogel ac yn unol â chyngor y llywodraeth. Mae ein tai, gerddi a pharcdiroedd yn parhau i fod ar gau am y tro, yn unol â'r rheolau ynghylch lleoliadau â thocynnau. Ond rydyn ni'n agor rhai o'n meysydd parcio arfordir a chefn gwlad yn Lloegr, er mwyn i chi fynd allan i fannau gwyrdd. Bydd angen i chi archebu ar gyfer rhai ohonyn nhw. Am y tro, mae'n rhaid i bob maes parcio yng Nghymru a Gogledd Iwerddon aros ar gau ar gyngor y llywodraeth. Darllenwch yr erthygl hon i ddarganfod beth sy'n agored, sut y gallwch ymweld, a beth i'w ddisgwyl o'ch ymweliad.
Mae Pen y Fan yn codi i uchder o 886m a hwn yw’r mynydd uchaf yn ne Prydain. Corn Du yw’r ail gopa uchaf (873m) a Chribyn yw’r trydydd ( 795m). Bob blwyddyn mae dros 250,000 o bobl yn dringo i ben y mynyddoedd trawiadol hyn.
Golygfeydd Godidog
I lawer o bobl, mae’n werth dringo’r filltir-a-hanner galed i gopa Pen y Fan er mwyn gweld y golygfeydd gwych sy’n ymestyn ar draws de a chanolbarth Cymru a thros Aber Hafren i dde-orllewin Lloegr. Ar ddiwrnod clir, gallwch weld Mynyddoedd Cambria, y Mynyddoedd Duon, Penrhyn Gŵyr, Sir Henffordd, Swydd Gaerloyw a Gwlad yr Haf.
Ar ochr ogleddol y mynyddoedd mae sgarpiau serth trawiadol a grëwyd gan rewlifiau. Maen nhw’n ddramatig ond yn beryglus. Tua’r de mae’r llethrau o hen dywodfaen coch yn disgyn yn llawer mwy graddol, tuag at gymoedd diwydiannol De Cymru.
Cerdded Gwyllt
Mae’r dirwedd hon yn uchel, yn wyllt, yn anghysbell ac yn lle gwych i fynd ar deithiau cerdded iach.
Y prif bwynt mynediad i fynd i grwydro yng nghanol Bannau Brycheiniog yw maes parcio Pont ar Daf, ar yr A470, ychydig filltiroedd i’r de o Aberhonddu. O’r fan hon, gallwch gerdded i fyny at diroedd comin agored Bwlch Duwynt neu Y Gyrn a gwneud yr ymdrech olaf i gyrraedd copaon Corn Du a Phen y Fan.
I wneud y tri chopa, dilynwch grib Craig Cwm Sere o Ben y Fan, draw at y Gribyn.

Cylchdaith Pen y Fan a Chorn Du
Taith gerdded fynydd egnïol ar lwybrau troed da i gopa Pen y Fan a Chorn Du.
Troedio’n ofalus
Gyda chymaint o bobl yn ymgymryd â’r her o ddringo mynyddoedd uchaf de Prydain, mae cynnal a chadw’r llwybrau ac atal erydu yn rhan enfawr o’n gwaith ni yn y Bannau.
Ry’n ni’n gwario dros £100,000 bob blwyddyn er mwyn gwneud yn siŵr fod ymwelwyr yn gallu parhau i fwynhau’r dirwedd hyfryd hon, heb ei niweidio ymhellach.