Mae coed wedi tyfu ar hyd llethrau isaf Ysgyryd Fawr, ar gyrion Y Fenni ers amser maith. Yn yn ddigon hir i'r ardal hon o goed gael ei chydnabod yn goetir hynafol. Mae'r nodweddion sydd i'w gweld yn y coetir, a'r ffaith iddo gael ei gynnwys ar rai o'r mapiau hynaf, yn cadarnhau hyn. Newidiodd golwg y coetir, a'r mathau o goed oedd yn tyfu yno, gryn dipyn yng nghanol y ganrif ddiwethaf. Digwyddodd hyn i lawer o goetiroedd oherwydd y pwysau i dyfu ein coed ein hunain a'r ysfa am blanhigfeydd o goed conwydd.
Troi'r cloc yn ôl
Dros y 30 mlynedd ddiwethaf rydyn ni wedi bod yn ceisio troi'r cloc yn ôl. Mae lleihau nifer y coed conwydd wedi bod yn allweddol yn hyn, ond wrth aros iddyn nhw dyfu i'w llawn aeddfedrwydd mae hyn wedi ein helpu i ariannu'n gwaith, yn ogystal â chynlluniau coetiroedd a chefnogaeth drwy aelodaeth.
Tynnwyd rhai conwydd yn ystod dyddiau cynnar y gwaith, ac yn y mannau hyn mae tyfiant gwych, trwchus o rywogaethau y byddem yn disgwyl eu gweld mewn coetir hynafol wedi cael eu hadfywio. Mae'n braf meddwl bod cynifer o'r coed hyn wedi dod o'r storfa o hadau sy'n gorwedd yn y pridd, ac yn nodweddiadol o goetir hynafol. Maen nhw'n dipyn gwell na chonwydd o ran creu amrywiaeth yn y coetir. Ond mae'r coed sydd wedi tyfu nôl yr un oed a'r un maint, ac yn creu canopi trwchus sy'n cysgodi llawr y coetir.
Ein gwaith hyd yma
Dyma'r rheswm dros ddechrau teneuo'r tyfiant yn y coetir. Gan ganolbwyntio ar un rhan ar y tro, rydyn ni'n tynnu tua 30% o'r coed, ac ychydig yn rhagor na hyn yn y rhannau lle plannwyd coed ffawydd gan fod y rhain yn rhwystro adfywiad y coetir. Mae'r gwaith clirio'n creu bylchau yn y canopi fel y gall golau gyrraedd llawr y coetir i helpu i adfywio planhigion mawr a bach. Mae rhan o'r gwaith yn barod wedi galluogi clychau'r gog, rhywogaeth sy'n ddangosydd ardderchog o goetir hynafol, i ddod i'r golwg am y tro cyntaf. Mae'r gwaith teneuo hefyd yn ffordd o greu gwell amrywiaeth ym maint ac oed y coed, ac yn ein caniatáu ni i roi lle i goed rydyn ni'n credu sy'n bwysig i'r coetir. Gall y rhain fod yn goed aeddfed allai ddarparu'r ffynhonnell o hadau yn y dyfodol, yn goed hynafol neu yn rhywogaeth sy'n llai cyffredin ar y safle, fel llwyfenni neu oestrwydd.