Roedd yn anodd iawn rhoi cyfweliadau pan oeddwn i’n crynu gyda rhew drosta i i gyd ond roedd pethau wedi gweithio’n dda wrth i ni ddechrau derbyn rhoddion i’n hapêl o bob rhan o’r du.
I fyny ac i fyny
Ym mis Mai, roedd y BBC wedi ymuno â ni ar lwybr troed Pont ar Daf i ffilmio ein cludiad awyr blynyddol wrth i ni gludo cerrig a llwch mewn hofrennydd. Roedd y gohebydd wedi ffilmio’r holl broses o gasglu’r cerrig a’r llwch yn bellach i lawr y cwm, eu cludo i’r llwybr troed ac wedyn lledaenu’r cerrig. Gwnaed y gwaith caled o ledaenu’r cerrig gan rai o’n gwirfoddolwyr Cwrdd a Chyfarch sydd fel arfer wedi’u lleoli yn ein caban croeso ym maes parcio Pont ar Daf ac maen nhw hefyd yn codi sbwriel o’r llwybrau troed. Mae ein grŵp dydd Iau rheolaidd a elwir yn ‘Skirridians’ yn helpu cynnal ein safleoedd yn y Fenni.
Arwydd eiconig
Roedd tasg cynnal a chadw gymharol gyffredin a wnaed y llynedd i adnewyddu arwydd omega’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gopa Pen-y-fan yn dasg llawer mwy nag y disgwyliwyd. Oherwydd y diddordeb a ddangoswyd a’r cynigion i brynu’r hen arwydd penderfynon ni ei arwerthu gyda chymorth arwerthwyr Rogers Jones & Co yng Nghaerdydd, ac roedd hyn yn fonws go iawn i gronfeydd ein hapêl.
Diolch am eich cymorth
Roedd yr holl roddion hynny wedi helpu i dalu am y tri diwrnod oedd eu hangen ar gyfer y cludiad awyr a gludodd 200 tunnell o gerrig a llwch i lwybrau troed Pont ar Daf a Storey Arms. Roeddem hefyd wedi cludo cerrig i Ben-y-fan er mwyn gosod llinell llwybr 20m. Treialwyd yr adran hon i weld pa mor hir y byddai’r cerrig a’r llwch yn para ac a fyddai’n werth gosod mwy o gerrig a llwch yn 2019.