Creu coedwigoedd gwyllt ym Mhont ar Daf

Pont ar Daf yn ystod gwaith cynaeafu coed

Yng nghysgod copaon canolog Bannau Brycheiniog, mae prosiect cadwraeth cynhyrfus ar waith ym Mhont ar Daf.

Pont ar Daf yw’r goedwig ddiweddaraf i ddod i’n meddiant ac rydyn ni wrthi’n troi’r blanhigfa fasnachol hon yn goetir gwell ar gyfer bywyd gwyllt. 

Safle amlwg

Mae’r goedwig hon wedi ei lleoli ger yr A470, yn y fan lle mae’r brif ffordd rhwng de a gogledd Cymru yn croesi dros  fynyddoedd y Bannau. Yn wir, dyma’r prif bwynt mynediad i ran ganolog Bannau Brycheiniog.  Roedd y goedwig yn un o’r cannoedd o blanhigfeydd conwydd a gafodd eu creu’n arbennig er mwyn cynaeafu coed yn y Deyrnas Unedig yn ystod y 20fed ganrif. 

Plannwyd coedwig Pont ar Daf ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ar lethrau agored lle roedd fferm, lloc porthmyn a thafarn ar un adeg. Mae olion rhain i’w gweld o hyd.  Ry’n ni’n gweithio’n galed i droi’r blanhigfa gonwydd yn goedwig a fydd yn llawer brafiach i fywyd gwyllt ac ymwelwyr. 

Rheoli pla

Fodd bynnag, a dim ond blwyddyn ar ôl i blanhigfa Pont ar Daf ddod i’n meddiant, fe ddigwyddodd rhywbeth annisgwyl. 

Mae’r blanhigfa’n cynnwys saith rhywogaeth gwahanol o goed pren meddal.  Un o’r prif rywogaethau yw’r llarwydden - yr unig gonwydden gollddail yn y Deyrnas Unedig. Hon hefyd yw’r  rhywogaeth sydd wedi cael ei tharo waethaf gan bathogen sy’n debyg i ffwng, ac sydd wedi bod yn ymledu ar draws y Deyrnas Unedig yn y blynyddoedd diwethaf.  

Mae Phytophthora ramorum yn lladd coed llarwydd.  Mae’n ymledu’n hawdd pan fydd y coed yn colli eu nodwyddau yn yr hydref.  Felly, pan gafodd ein tîm Hysbysiad Iechyd Planhigion gan y Comisiwn Coedwigaeth, roedd rhaid i ni dorri’r coed yn syth. 

Cyfnod newydd

Ond nid drwg o beth oedd hynny, a dweud y gwir, oherwydd rhoddodd gyfle i ni ddechrau gwneud gwelliannau bron yn syth. 

Ry’n ni eisoes wedi dechrau ail-blannu gyda choed pren called, diolch i gynllun grantiau Coetiroedd Gwell i Gymru a’r arian a gafwyd o werthu’r coed a gafodd eu torri. 

Ry’n ni hefyd wedi creu ‘rhodfeydd’ (llwybrau drwy’r coetir sy’n ddigon llydan ar gyfer tractor) er mwyn i ni gael mynediad rhwydd i rannau o’r safle sydd angen gwaith, ac i roi cyfle i bobl archwilio pob cornel o’r coetir a gweld y bywyd natur sy’n dechrau ffynnu yno.  

Bydd y gwaith i deneuo’r goedwig yn parhau dros y blynyddoedd.  Yn raddol fach fe fydd hi’n dechrau edrych yn fwy naturiol yn y dirwedd ac fe fydd hi’n datblygu i fod yn gynefin llawer gwell ar gyfer bywyd gwyllt.