Creu coetir llawn natur ym Mhont ar Daf

Rydyn ni wedi bod yn brysur yn gwella gwerth cadwraeth Pont ar Daf ers caffael y coed yn 2010, gyda’r nod o greu lle i fyd natur ffynnu ac ymwelwyr i’w fwynhau.

Cyfnod newydd i Pont ar Daf

Sawl blwyddyn yn ddiweddarach, rydym wedi cynaeafu bron i hanner y safle 14 hectar, ac ailblannu wrth i ni wneud hyn. Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith plannu yn cynnwys rhywogaethau ucheldir naturiol fel bedw, criafol, derw a gwern, gyda helyg yn y rhannau gwlypach. Mae’r coed hyn yn darparu ffynhonnell wych o hadau a bwyd yn ogystal â helpu i feddalu safle’r coed yn y dirwedd. Mae llawer o’r gwaith plannu hwn wedi’i gwblhau gyda chymorth gwirfoddolwyr, gan gynnwys Gŵyl y Gelli.

Mae’r conwydd sy’n weddill yn darparu cysgod i’r ardaloedd hyn sydd newydd eu plannu wrth iddynt barhau i aeddfedu. Ar ôl aeddfedu, mae’r coed hyn yn darparu adnodd mewnol ar draws ein heiddo ar gyfer gatiau, llwybrau pren, gwaith atgyweirio, meinciau - pob math o bethau mewn gwirionedd. Dyna pam rydym yn ailblannu gyda choed conwydd i helpu i gynnal ffynhonnell bren gynaliadwy yn y dyfodol.

Coetir yn dod yn fyw gyda bywyd gwyllt

Wrth dreulio amser yn y goedwig yn gwneud y gwaith cadwraeth hanfodol hwn, rydym wedi gweld cynnydd mawr yn y bywyd gwyllt a welwn. Un o’r uchafbwyntiau fyddai gwas y neidr, sy’n cael ei ddenu gan ddŵr agored a nifer helaeth o bryfed i fwydo arnynt. Mae’r cynnydd mewn gweision neidr yn golygu eu bod wedi denu ysglyfaethwyr arbenigol fel hebog yr ehedydd sy’n eu dal ar yr asgell. Mae’r cudyll coch hefyd wedi bod yn manteisio ar yr ardaloedd agored i edrych am eu hysglyfaeth nhw sef llygod a llygod pengrwn. 

" Ar ymyl y coetir mae coed a llwyni a arferai gysylltu coetiroedd â thir agored. Rydym wedi arfer gweld ymylon caled i fforestydd a choedwigoedd, lle mae da byw yn pori hyd at y ffensys. Nid yw’r llinellau syth annaturiol hyn yn dda i fywyd gwyllt gan fod yn well gan adar ac anifeiliaid gael gorchudd coed sy’n teneuo’n raddol. Fel hyn, maen nhw’n cael cysgod rhag y gwaethaf o’r tywydd, gorchudd gan ysglyfaethwyr, ac ardaloedd mwy agored i arddangos a bwydo. Dyma beth rydym wedi’i greu ym Mhont ar Daf, trwy deneuo ymylon y blanhigfa hon a fu ar un adeg yn fasnachol, gan greu coetir llawn natur yn ei le."
- Tîm Ceidwaid Coetiroedd

Mae mwy o’r pethau sylfaenol i’w gweld hefyd fel brogaod a llyffantod sy’n bridio yn yr ardaloedd gwlypach. Rydym hefyd yn gweld planhigion llai ac isdyfiant yn tyfu hefyd gan gynnwys grug, llusi duon bach a hyd yn oed clychau’r gog. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain wedi cael cyfle i ffynnu trwy sicrhau mwy o olau i lawr y goedwig a tharfu ar y ddaear er mwyn i blanhigion sefydlu eu hunain.

Bydd gwaith o deneuo’r coetir yn parhau dros y blynyddoedd, gan feddalu ei bresenoldeb yn y dirwedd ac yn y pen draw yn creu coedwig fwy disglair, mwy agored a chyfeillgar i fywyd gwyllt.

Llinell amser

2010

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn caffael y blanhigfa gonwydd fasnachol 14 hectar

Roedd y coetir yn un o gannoedd o blanhigfeydd conwydd a grëwyd yn benodol ar gyfer cynaeafu coed yn ystod yr 20fed ganrif yn y DU. Crëwyd Pont ar Daf ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac mae’n sefyll ar ochr yr hyn a fu ar un adeg yn fryn agored, yn gartref i fferm, yn lloc porthmon ac yn dafarn, ac mae olion y dafarn i’w gweld o hyd.

Yr arwydd Omega ym Mhont ar Daf

2011

Tro annisgwyl i’n gwaith rheoli coetiroedd a rheoli clefydau

Roedd y goedwig gan mwyaf yn cynnwys saith rhywogaeth wahanol o bren meddal. Coed llarwydd yw’r brif rywogaeth ym Mhont ar Daf - yr unig gonwydd collddail yn y DU, ac un o’r rhywogaethau a gafodd eu taro waethaf gan bathogen tebyg i ffwng, a oedd yn lledu ar draws y DU. Bydd Phytophthora ramorum yn lladd coed llarwydd yn y pen draw. Mae’n lledu’n hawdd hefyd pan fydd y coed yn bwrw eu nodwyddau yn yr hydref. Felly, pan roddwyd Rhybudd Iechyd Planhigion i ni gan y Comisiwn Coedwigaeth, roedd yn ofynnol i ni dorri’r coed i lawr ar unwaith.

Rheoli clefydau yn 2011 ym Mhont ar Daf

2012

Dechrau creu’r daith

Yn 2012 dechreuon ni greu’r daith trwy’r coed er mwyn caniatáu gwell mynediad i ni i reoli Pont ar Daf. Roedd y rhan gyntaf yn cynnwys mynediad di-draffig i gerddwyr rhwng Canolfan Gweithgareddau Storey Arms a maes parcio Pont ar Daf y mae llawer o gerddwyr yn ei ddefnyddio erbyn hyn i gychwyn eu dringfa i gopaon uchel Pen-y-fan a Chorn Du. Ar yr adeg hon, gwnaethom greu man pentyrru pren hefyd ger y maes parcio.

Creu llwybr yng nghoedwig Pont ar Daf