Mwynhau’r awyr agored? Mae ein gwirfoddolwyr Llwybrau yn hoffi bwrw ati i wneud eu rhan.
Helpwch ein tîm o geidwaid y Bannau Brycheiniog a Sir Fynwy i gynnal a chadw llwybrau ucheldirol Ysgyryd, Pen-y-fâl a chanol y Bannau Brycheiniog. Mae’r tasgau’n cynnwys clirio draeniau, ffosydd a chwlfertau a mân atgyweiriadau i strwythurau fel arwynebau cerrig a grisiau pren.
Mae bod yn wirfoddolwr Llwybrau yn rhoi cyfle i chi rannu nod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol o gyflawni gwaith cadwraeth hanfodol ar ein safleoedd, ynghyd â helpu ein hymwelwyr i’w mwynhau a’u deall.
Sut ydw i’n cymryd rhan?
P'un ai ydych yn gallu helpu am gyfnod penodol fel cyfnodau gwyliau, neu am ddiwrnodau rheolaidd bob wythnos, hoffem glywed gennych. Mae rhai o’n cyfleoedd yn dymhorol ac felly mae’n werth gwirio gwefan gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rheolaidd am fwy o wybodaeth.
Gyda rhaglen sefydlu trylwyr a hyfforddiant parhaus, byddwch yn cynyddu’ch gwybodaeth eich hun o’n lleoedd arbennig ac mae bod yn rhan o’n tîm y Bannau Brycheiniog a Sir Fynwy yn ffordd wych o ddysgu pethau newydd.
Am fwy o fanylion a sut i wneud cais, cysylltwch brecon@nationaltrust.org.uk