Ebrill 2018 – y gwanwyn wedi cyrraedd, amser cynnal arolwg

Jess Whitehead, ceidwad gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol y Bannau Brycheiniog, yn gweithio mewn dôl ac yn cynnal arolwg o flodau gwyllt

Wrth i ni nesáu at ddechrau’r haf mae’n teimlo bod bywyd gwyllt wedi dihuno go iawn. Dyma adeg wych o’r flwyddyn i fod allan yn yr awyr agored. Mae’r ceidwad cadwraeth Jess yn sôn am dymor o arolygon sydd wedi dechrau ein gwaith monitro a’r pethau i wylio amdanynt...

Cadwch lygad allan...

Ar draws y DU, mae perthi yn llachar gyda dail gwyrddion ffres ac mae coetiroedd wedi’u gorchuddio â garlleg a blodau’r gwynt. Mae pili-palod a gwenyn yn brysur yn casglu neithdar, bydd cywion bach yn paratoi i fagu plu ac os ydych yn lwcus efallai y gwelwch y cenawon moch daear cyntaf yn dod allan o’u deyerydd. Wrth i’r tywydd ddechrau gwella ac wrth i chi fentro allan i grwydro cefn gwlad, dyma ychydig o bethau i wylio amdanynt:

  • Clychau’r gog. Mae carped o liw yn un o’r arddangosfeydd gorau o fywyd gwyllt y gwanwyn sy’n gallu troi coetir yn lle llawn hud a lledrith. Ym mis Ebrill ac yn gynnar ym mis Mai mae clychau’r gog fel arfer ar eu gorau felly gwnewch yn siŵr na fyddwch yn colli’r sioe anhygoel hon. Os ydych yn chwilio am rywle i’w mwynhau, un o’n safleoedd gorau yw Coed y bwnydd ger afon Wysg yn Sir Fynwy.
     
  • Yr adar mudol olaf. Erbyn hyn, rydych siŵr o fod wedi clywed sŵn ailadroddus y bi fach, un o’r adar mudol cyntaf i gyrraedd ym mis Mawrth. Cadwch lygad allan am y gwcw, y wennol, yr eos a’r wennol ddu sydd fel arfer yn cyrraedd ym mis Ebrill a mis Mai.
     
  • Blodau mis Mai. Gwyliwch y ddraenen wen yn blaguro a’r dail gwyrddion yn ymddangos cyn gweld y blodau gwynion hufennog yn hwyr ym mis Ebrill neu ym mis Mai. Ar un adeg gelwid y planhigyn yn ‘flodau mis Mai’ ond mewn llawer o leoedd mae blodau bellach yn ymddangos ym mis Ebrill. Dyma arwydd efallai bod newid hinsawdd yn gwneud i’r gwanwyn ddod yn gynharach.

Llawer o arolygon

Rydym hefyd wedi bod yn brysur y gwanwyn hwn wrth i ni ddechrau ein tymor o arolygon gyda thrawsluniau o bili-palod mewn gwahanol safleoedd yng Nghaerdydd a’r Fenni, arolygon o goch y grug yng nghanol y Bannau Brycheiniog yn ogystal â monitro pryfed afon a samplu pridd yng Nghwm Tarell.

Yr arolygon pili-palod yw’r rhai cyntaf yn y tymor, yn dechrau ar 1 Ebrill. Mae pilipalod a gwyfynod wedi cael eu cydnabod gan y Llywodraeth fel dangosyddion o fioamrywiaeth ac fe’u defnyddir yn eang gan ecolegwyr i astudio effaith colli cynefinoedd, darnio a newid hinsawdd. Mae eu breuder yn golygu eu bod yn ymateb i newid yn gyflym ac felly mae eu hymdrech i oroesi (mae tri chwarter o’n rhywogaethau yn dirywio) yn rhybudd difrifol am ein hamgylchedd. Mae’r hyn sy’n digwydd i bilipalod a gwyfynod heddiw yn mynd i ddigwydd i weddill ein hamgylchedd yfory ac felly mae monitro sut maen nhw’n gwneud yn hynod ddefnyddiol o ran asesu iechyd amgylchedd neu ecosystem benodol a bydd yn ein helpu i wneud penderfyniadau ynghylch sut i reoli ein safleoedd orau.

Mae Tarnya, un o’n ceidwaid cynorthwyol gwirfoddol wedi ymgymryd â phrosiect yn Ysgyryd Fawr, ger y Fenni i fonitro’r boblogaeth pilipalod. Yn dilyn rhywfaint o waith rheoli coetir gan gynnwys ehangu’r cribau i ganiatáu rhagor o heulwen i helpu i wella llystyfiant, roeddem am gasglu data a allai ddangos sut roedd ein gwaith yn effeithio ar y coetir ac yn ei dro ei ddefnyddio i gyfrannu at benderfyniadau rheoli yn y dyfodol. Mae ein data hefyd yn cael ei ddefnyddio gan Gynllun Monitro Pilipalod y DU (UKBMS) i asesu sut mae pilipalod yn gwneud ar raddfa genedlaethol.

Prosiect cyffrous arall sy’n cael ei wneud eleni gan Corinne, cydweithiwr o dîm Bro Gŵyr, yw gwaith asesu dwy fferm yng Nghwm Tarell sy’n edrych ar strwythur a ffrwythlondeb pridd, ansawdd dŵr, cyflwr y tir, ffiniau a llystyfiant. Bydd yr holl wybodaeth a gesglir yn ein helpu yn uniongyrchol i wneud mwy o le ar gyfer natur yn ein tir amaeth, gan gysylltu coridorau bywyd gwyllt ac amddiffyn ac ehangu rhai cynefinoedd gwirioneddol arbennig. Mae’r rhain yn cynnwys perthi hynafol ceinciog a lonydd suddedig hudol, pocedi o fforest law Geltaidd (ie - wir!) a chynefin Ffridd sy’n hardd mewn ffordd wyllt - croesfan rhwng y tir amaeth a’r mynydd a chartref i rywogaethau eiconig o adar ucheldir, megis mwyalchen y mynydd a chrec yr eithin.

Cynefin Ffridd yng Nghwm Tarell, croesfan rhwng tir fferm a’r mynydd
Cynefin Ffridd yng Nghwm Tarell yn y Bannau Brycheiniog, Cymru
Cynefin Ffridd yng Nghwm Tarell, croesfan rhwng tir fferm a’r mynydd

O bilipalod i afonydd

Mae’r arolygon pryfed afon hefyd yn cael eu cynnal yng Nghwm Tarell a byddant yn ddefnyddiol i gyfrannu at y gwaith monitro ar y ffermydd. Mae hyn yn cynnwys monitro anifeiliaid di-asgwrn-cefn yn yr afon; mae rhai rhywogaethau yn goddef llygredd ac mae eraill yn sensitif ac, yn dibynnu ar y rhywogaethau rydych yn dod ar eu traws, bydd yn caniatáu i ni bennu pa mor dda yw ansawdd y dŵr.

Nod y gwaith o fonitro ein safleoedd yw rhoi cyfle i ni greu cynefinoedd mwy o faint, gwell a chydgysylltiedig er mwyn i natur ffynnu. Mae llawer o brosiectau cyffrous yn Aberhonddu a’r cyffiniau gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr haf hwn ac felly os hoffech ymuno â ni a chyfrannu rhywfaint o’ch amser at achos gwerth chweil cysylltwch â ni.

Mae cynnal arolygon yn ein helpu i ddeall beth sy’n mynd ymlaen ond mae’r gwaith ymarferol yr un mor bwysig. Dewch yn ôl y mis nesaf i wybod am amrywiaeth ein safleoedd a sut mae ceidwad ystâd yn gofalu amdanynt i gyd.