Fferm Berthlwyd ar hyd yr oesoedd

Ffermdy Berthlwyd, Bannau Brycheiniog

Ym mhen ucha’ Cwm Nedd, mae Berthlwyd yn un o ffermydd anghysbell ond hyfryd Powys, ac mae ganddi hanes sy’n ymestyn nôl dros filoedd o flynyddoedd.

Olion hynafol

Mae’r cwm hwn wedi cael ei ffermio ers miloedd o flynyddoedd. Heddiw mae modd gweld olion yr hen breswylwyr - o’r oes Efydd i’r oes Haearn, i’r oesoedd canol ac i drigolion mwy diweddar hefyd.

Ar ffin ddeheuol Berthlwyd mae lloc neu gae o’r Oes Haearn, sydd wedi’i restru fel Cofeb Hynafol.  Mae nifer o ffiniau caeau, ar ffurf waliau a chloddiau, yn dystiolaeth bod ffermio wedi bod yn digwydd yma ers yr Oes Haearn. Mae’n bosib hefyd fod olion storfa gron, ar gyfer cadw grawn neu gnydau gwraidd, ar ymyl un o’r dolydd isaf yn dyddio’n ôl i’r Oes Haearn.

Y ffermdy

Mae cofnodion yn awgrymu bod yna ffermdy ym Mherthlwyd mor bell yn ôl ag 1662, pan oedd yn eiddo i William Bevan Rees.  Ychydig flynyddoedd wedyn, mae setliad priodasol o 1690 yn awgrymu bod y fferm erbyn yr adeg honno yn eiddo i William Lewis o Hepstey.

Yn ddiweddarach, yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif, nid yw’n glir pwy oedd yn berchen ar y fferm - ar wahân i un cyfeiriad yng Nghofrestr Degwm 1840 sy’n awgrymu bod Berthlwyd yn eiddo i Leyson Morgan.  Mae’r rhan fwyaf o hanes y fferm yn anhysbys.

Daeth fferm Berthlwyd yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1992. Mae ein tenantiaid heddiw yn cynrychioli’r chweched genhedlaeth o’r un teulu sydd wedi ffermio’r tir hwn.

Tirwedd fyw

I’r gorllewin o Berthlwyd mae Afon Nedd.  Mae’r afon yn llifo trwy geunant trawiadol a dramatig gydag ochrau hynod o serth.  Mae bron yn sych erbyn hyn gan fod afon Nedd yn dilyn sianel danddaearol islaw'r hen wely afon.

Cafodd y ceunant ei greu oherwydd i system ogof gwympo.  O dan fferm Berthlwyd mae Ogof Afon Nedd Fechan, un o’r systemau ogof fwyaf yn yr ardal sydd nawr yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.  Mae llyncdyllau i’w gweld drwy’r ardal gyfan, ac yn nodi’r mannau  lle mae ceudyllau neu ogofau tanddaearol wedi cwympo.

Yn ddaearegol, mae’r fferm yn eistedd ar galchfaen carbonifferaidd ac mae gweddillion palmant calch (cyswllt i wefan allanol) i’w gweld yn y mannau uchaf , yn cynnwys y brigiadau creigiog ar Garn Fawr ac yn y coedwigoedd ar hyd ymylon ceunant Nedd.  Y calchfaen hwn, ynghyd â’r system ffermio draddodiadol, sy’n gyfrifol am y cyfoeth a’r amrywiaeth o flodau gwyllt sy’n nodweddu fferm Berthlwyd.

Oes posib ymweld â fferm Berthlwyd?

Os ydych yn grŵp gyda diddordeb arbennig, megis botaneg neu hanes, ac yn awyddus i ymweld, cysylltwch â Joe Daggett.  Mae’n ddrwg gyda ni, ond nid yw Berthlwyd ar agor i’r cyhoedd.