Gorffennaf 2019 - Pori er lles cadwraeth

Tirwedd ffermio

Mae’r haf yn prysur fynd yn ei flaen. Mae’r dirwedd amaethyddol yn newid wrth i laswelltiroedd gael eu torri ar gyfer bwyd y gaeaf. Yn ôl y sôn mae ffermwyr wedi cael cnwd toreithiog eleni - gyda glaw a thymereddau uwch yn dod ar yr adeg iawn i greu tyfiant glaswellt ffrwythlon. Mae hyn yn rhyddhad ar ôl sychder y llynedd. Efallai ein bod yn cymryd ein tirwedd o gaeau a gwrychoedd yn ganiataol. Rydym hefyd efallai yn cymryd yn ganiataol y cylch torri blynyddol sy’n cynnal ein dolydd a’r defaid, y gwartheg a’r merlod sy’n cynnal porfeydd. Erbyn hyn, yr anifeiliaid pori, yn enwedig gwartheg, sy’n chwarae’r rôl hollbwysig o helpu i gynnal llawer o’n glaswelltiroedd sy’n gyforiog o rywogaethau - yn enwedig glaswelltiroedd gwlyb. Yn aml rydym yn siarad am bori er lles cadwraeth mewn perthynas â rheoli cynefinoedd. Ond mae gan y berthynas rhwng ein cynefinoedd, anifeiliaid pori a phobl hanes hir a chymhleth – sy’n ei gwneud yn rhan ddiddorol o weithio yng nghefn gwlad...

Hanes byr o amser!

Rhaid i’n taith o ddeall y dirwedd ddechrau gyda ni. Er ein bod ni fel bodau dynol yn gweld ein hunain yn wahanol i natur, rydym ond yn un o lawer o rywogaethau sydd wedi siapio cynefinoedd y Ddaear. Mae glaswelltir ac anifeiliaid pori yn rhan amlwg o’n tirwedd ffermio fodern yng Nghymru ac mae hyn yn ymateb clir i’r berthynas hir iawn gydag anifeiliaid pori a’r amgylchedd. Deellir bod y teulu o blanhigion a elwir yn laswelltau wedi esblygu i fod y planhigion amlycaf tua 55-60 miliwn o flynyddoedd yn ôl (ar ôl y deinosoriaid fwy neu lai). Ar y dechrau credwyd bod y newid yn yr hinsawdd yn dylanwadu ar eu lledaeniad a’u trechedd. Mae’n ymddangos bod anifeiliaid pori glaswellt wedi esblygu’n ddiweddarach ond arweiniodd hyn at ddatblygiad grŵp mawr o anifeiliaid a allai fanteisio ar y ffynhonnell fwyd newydd hon ac elwa arni. Dros filiynau o flynyddoedd, datblygodd a lledaenodd yr anifeiliaid hyn a’r glaswelltiroedd a’r planhigion blodeuol i greu amrywiaeth eang o gynefinoedd glaswelltir cyforiog o rywogaethau ar draws pob parth hinsoddol ar ein planed. Roedd anifeiliaid pori wedi esblygu gwahanol fathau o fwyta a threulio a olygai y gallent hefyd fanteisio ar fwydydd o fathau eraill o gynefinoedd megis rhostir, twndra, prysgwydd a safana. Daeth bodau dynol ychydig filiynau o flynyddoedd yn ôl fel hollysyddion ond hefyd fel ysglyfaethwyr a dyma ddechrau’r rhyngweithio rhyngom ni, ysglyfaethwyr eraill, anifeiliaid pori ein glaswelltiroedd a’n coedwigoedd sy’n arwain at ein tirweddau modern yng ngogledd Ewrop.

Y gwartheg Glas Llwyd yn pori gweundir Y Gyrn
Gwartheg yn pori
Y gwartheg Glas Llwyd yn pori gweundir Y Gyrn

Perthynas hirsefydlog

Felly, sut mae hyn oll yn gysylltiedig â phori er lles cadwraeth? Rwy’n credu fy mod i’n ceisio cysylltu hyn â’r berthynas hirsefydlog rydym wedi’i chael gydag anifeiliaid pori. Mae ein cyndeidiau yn debygol o fod wedi dilyn buchesi mawr o anifeiliaid pori ar draws gogledd Ewrop, a oedd fel y mae’n cael ei ddeall nawr, yn dirwedd goedwig fwy amrywiol o goed agored, glaswelltir a choetir trwchus a fyddai wedi tyfu a lleihau wrth i oesoedd iâ fynd a dod. Wrth i bobl ddatblygu dealltwriaeth o bob rhywogaeth megis eu hoff ardaloedd pori, blas y cig, y gallu i’w godro, defnyddio croen a gwlân, datblygodd perthynas sydd wedi arwain at ddofi ac yna at y cynefinoedd glaswelltir a thirwedd ôl-goedwig rydym yn gyfarwydd â nhw heddiw. Yn y DU, wrth i ddiwylliant, iaith a ffermio sefydlog esblygu, daeth amrywiad rhanbarthol mewn anifeiliaid ac arferion i fodolaeth a daeth y grefft a’r wyddor gyfan o fridio anifeiliaid a’r defodau yn gysylltiedig â’r calendr ffermio. Hyd at y newidiadau modern diweddar mewn ffermio a rheolaeth glaswelltir roedd bodau dynol wedi creu tirwedd (yng Nghymru) o laswelltiroedd cyforiog o rywogaethau a oedd yn cynnal amrywiaeth enfawr o bryfed, adar a mamolion.

Cydweithio

Mae dealltwriaeth o’r rhyngweithio hwn wedyn yn bwysig gan fod ffermwyr a chadwraethwyr yn dod ynghyd mewn trafodaethau ynghylch rheoli tir yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae’r datblygiadau hyn yn seiliedig ar yr hyn rydym yn ei wybod am sut roedd anifeiliaid wedi ffynnu yn ein tirweddau yn y gorffennol. Mae nifer gynyddol o ffermwyr yn datblygu gwahanol ffyrdd o fagu anifeiliaid, yn enwedig gwartheg ar y tir, sy’n llai dwys - lleihau erydiad pridd, cloi carbon a chynyddu ffrwythlondeb pridd – ac sydd â llai o bwysau ar adnoddau ond hefyd yn bwysig i fywyd gwyllt. Ond mae pori er lles cadwraeth yn gweithio ar lawer o wahanol raddfeydd. Yn fy ardal i mae gennym fuchesi bach o wartheg sy’n pori glaswelltir yn ysgafn yn Lan-y-lai a Choelbren. Ar Fferm Blaenglyn prynodd y tenantiaid fuches fach o wartheg Glas Llwyd i bori gweundir Y Gyrn, yn ogystal â’u merlod Mynydd Cymreig. Ac rydym wedi cefnogi dod â gwartheg yn ôl i ffermydd bach fel Berthlwyd er mwyn pori’r glaswelltir corsiog yn well. Efallai y byddwch hefyd yn clywed termau fel “pori cyfannol wedi’i gynllunio”, a all weithio ar raddfeydd llawer mwy a dyma’r dull y mae tenant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mharc Croome yn ei ddefnyddio.

Felly, mewn ffordd, mae pori er lles cadwraeth yn gwireddu ein perthynas â natur a sut y gallwn greu tirweddau rhyfeddol ac amrywiol, cyforiog o rywogaethau, ond hefyd lle mae ffermio a chadwraeth yn dod ynghyd. Y tro nesaf y byddwch yn dod ar draws gwartheg yn pori ar ddarn o laswelltir, gallwch fyfyrio ar y miliynau o flynyddoedd o esblygu a rhyngweithio rhwng planhigion ac anifeiliaid (gan gynnwys pobl) sydd wedi creu’r olygfa. Bydd ein perthynas â’r anifeiliaid hyn yn parhau i fod yn bwysig am byth wrth i ni edrych tua’r dyfodol ac ystyried cynnal ein cynefinoedd, ein bywyd gwyllt, ein tirwedd a’n bwyd wrth gwrs!

Dewch yn ôl y mis nesaf i gael y diweddaraf gan y ceidwad arweiniol Rob ar y gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio a wneir i barhau i gadw ein safleoedd yn agored a hygyrch i bawb sy’n eu mwynhau.