Rheoli coetiroedd, busnes newynog
Yn ddiweddar, penderfynon ni gynnal treial gyda gwartheg yn pori ar goetir mewn ychydig o safleoedd gwahanol yn Nyffryn Tarell yng nghanol y Bannau Brycheiniog. Rydyn ni'n gobeithio torri trechedd y planhigion sy’n cytrefu’n gyflym ar y ddaear a chreu haen gwellt fydd yn atal unrhyw beth arall rhag dechrau. Mae'n cydbwyso pethau rywfaint hefyd, nid yw gormod o un peth yn wych ar gyfer amrywiaeth gytbwys ac eang o rywogaethau, fel y gwelwch wrth ddarllen ymlaen.
Yn gyntaf, fe wna i gyflwyno’r gweithwyr allweddol yn y treialon hyn. Rydyn ni’n ffodus iawn i fedru gweithio gyda’n tenantiaid fferm cyfagos a’u gyr o wartheg Glaslwyd. Mae’r gwartheg Glaslwyd yn groes rhwng tarw Whitebred Shorthorn (ar gyfer ei briodweddau cig da) a buwch Galloway (ar gyfer ei gwydnwch). Y canlyniad terfynol yw buwch gref dda a all gynhyrchu llo sy’n addas ar gyfer y farchnad a ffynnu ar borfa o safon is; maen nhw’n hapus i bori ar borfa fwy garw na bridiau eraill. Maen nhw’n wych ar gyfer pori cadwraethol oherwydd mae eu heffaith yn llai detholus a dwys na defnyddio defaid.
Os ydych yn cerdded yng nghanol y Bannau Brycheiniog rydych siŵr o fod wedi gweld y gwartheg hyn gan eu bod yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser ar Y Gyrn yn crwydro rhwng Coed Carno ac ardal Storey Arms i helpu gyda’r pori cadwraethol yno. Yn hwyr yn yr hydref maen nhw’n dod oddi ar y bryn i borfa’r iseldir ac i’r beudai yn y gaeaf. Roedd hyn wedi rhoi cyfle i ni gael ychydig mwy o waith mas ohonynt.
I mewn â nhw
Fe wnaethon ni adael ychydig i mewn i ardal porfa hen goedwig a gafodd ei ffensio bant yn 2009 fel rhan o’r gwaith i’w hadfer. Yn flaenorol, roedd yr ardal hon yn rhan o gae mwy o faint gyda nifer fawr o goed yn yr hanner uchaf lle roedd yn cwrdd â ffin y bryn. Fe wnaethon ni ffensio’r hanner uchaf bant i leihau’r pwysedd pori ac, o ystyried materion megis sathru ar wreiddiau, stripio rhisgl a phori canopi, i roi cyfle i’r coed wella. Roedd hyn hefyd wedi rhoi modd i’r glasbrennau hadu eu hunain oherwydd y glasbrennau hyn yw’r mwyaf melys a maethlon i dda byw. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod hwn a heb unrhyw reolaeth mae’r glaswellt wedi tyfu’n hir a rhonc ac mae wedi dechrau creu gwellt anhreiddiadwy na all unrhyw beth arall dyfu trwyddo.