Er mai gyda'r tîm coetiroedd ro'n i wedi fy lleoli'n bennaf, roedden nhw'n fwy na hapus i mi fynd i archwilio agweddau eraill ar waith y ceidwad, lle roeddwn i'n brin o brofiad. Yn benodol, gwaith cynnal arolygon a monitro, pethau sydd yn fy marn i yn sgiliau hanfodol os ydych chi'n cyfrannu at waith rheoli cynefinoedd. Wedi'r cyfan, mae angen i chi wybod bod y cynefin rydych chi'n gyfrifol amdano'n elwa o'r gwaith rydych chi'n ei wneud yno, ac fel arfer gellir penderfynu hyn drwy gynnal arolygon blynyddol. Y llynedd ces i'r gyfle i fynychu gweithdy ar Adfer Coetiroedd Hynafol gan Goed Cadw a diwrnod cynnal arolwg o flodau gwyllt y dolydd ar Fferm Berthlwyd, un o'n ffermydd tenant, gydag Ymgynghorydd Natur a Bywyd Gwyllt Cymru i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Hefyd cynorthwyais ein ceidwad cadwraeth, Jess, gyda'i harolygon o'r dolydd yn Lanlay Meadows. Fel gwirfoddolwr amser llawn rydych chi'n cael cyfle, ac yn cael eich annog, i fynychu gweithdai hyfforddi gyda staff amser llawn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Beth nesa?
Yn ddiweddar derbyniais swydd fel Ceidwad Cynorthwyol gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar Ystâd Ashridge yn Swydd Hertford. Ardal o goetiroedd hynafol a lled naturiol yw hon yn bennaf, gyda rhai ardaloedd hefyd o barcdir a glaswelltir calch, sy'n rhoi cyfle perffaith i mi wneud defnydd da o'r sgiliau rwy wedi eu hennill dros y flwyddyn ddiwethaf (yn ogystal â phrofiad y blynyddoedd blaenorol).
Pa un ai chwilio am yrfa newydd ydych chi, yntau am brofiad ar ôl bod yn y coleg neu'r brifysgol, neu yn fy achos i, gweld eich bod yn brin o sgiliau. Alla i ddim argymell gwell swydd i chi na hon fel cyflwyniad perffaith i ddechrau gyrfa ym myd cadwraeth. Os mai coetiroedd yw eich byd chi, a bod gennych chi hefyd dystysgrif i dorri coed gyda llif gadwyn, bydd y tîm yn hysbysebu am swydd gwirfoddolwr unwaith eto yn yr hydref. Neu os yw'n well gennych chi weithio ar dir uchel ac ar lwybrau'r mynyddoedd, cadwch olwg ar y cyfleodd gwirfoddoli sy'n codi yn y gwanwyn bob blwyddyn!
Os ydych chi wedi mwynhau darllen y blog cyntaf ar gyfer 2018, ac am gyfle i weld beth arall sy'n digwydd mewn tîm o geidwaid cefn gwlad, dewch nôl mis nesaf i ddarganfod beth mae ein tîm coetiroedd wedi bod yn ei wneud.