Mawrth 2018 - erydiad y llwybrau, problem sy'n parhau

Ceidwad arweiniol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mannau Brycheiniog yn cario'r offer cyn dechrau ar waith trwsio llwybrau

Mae cynnal a chadw'r 70km o lwybrau sydd yn ardal ganol Bannau Brycheiniog yn dasg barhaus. Gan fod nifer yr ymwelwyr wedi mwy na dyblu yn y pum mlynedd ddiwethaf, mae'n angenrheidiol trwsio'r llwybrau'n gyson. Yma mae Rob, y ceidwad arweiniol, yn trafod sut mae'r tîm yn mynd ati i ddelio â heriau'r mynyddoedd...

Llawer o eira, llawer o gerddwyr

Dros fisoedd y gaeaf 'dyw fy nhîm o geidwaid yr ucheldir a'n gwirfoddolwyr ddim wedi gallu gweld y llwybrau yng nghanol Bannau Brycheiniog, heb sôn am eu cynnal a'u trwsio ar ôl yr eira a'r rhew.  Ond nid yw'r tywydd wedi rhwystro'r cerddwyr. Felly mae ein gwirfoddolwyr ymroddedig wedi bod yn mynd allan i  gerdded y llwybrau yn yr eira er mwyn casglu sbwriel. Gan fod yr eira yn cadw at y tir uchel erbyn hyn, a'n bod ni'n dechrau troi (gobeithio) at wanwyn cynhesach, mae hyn wedi galluogi ein gwirfoddolwyr Cwrdd a Chyfarch i fynd allan i gynnal arolygon o'n safleoedd archeolegol.

Mae'r safleoedd archeolegol hyn yn amrywio o weddillion hen waliau terfyn a thŷ hir i amddiffynfa filwrol o'r Ail Ryfel Byd. Mae angen archwilio'r safleoedd hyn bob blwyddyn neu ddwy i chwilio am arwyddion o ddifrod, eu cofnodi a chymryd lluniau ohonynt. Ond mae angen cynnal archwiliadau mwy cyson o'r henebion cofrestredig (HC) gan eu bod yn cael eu hystyried o werth cenedlaethol.

Codi ymwybyddiaeth

Diolch i'r sylw mae ein gwaith yn cynnal y llwybrau wedi'i dderbyn yn ddiweddar ar y teledu, mae nifer ein gwirfoddolwyr yn y grŵp Cwrdd a Chyfarch a'r grŵp Pobl sy'n Gofalu am Ran o Lwybr wedi cynyddu.  Mae hyn wedi ein galluogi ni i agor y cwt Cwrdd a Chyfarch yn amlach, fel y gallwn ni siarad gyda'r nifer fawr o ymwelwyr sy'n dod i'r ardal. Hefyd gan fod rhagor o aelodau yn y grŵp Pobl sy'n Gofalu am Ran o Lwybr mae ein llwybrau yn cael mwy o sylw.

Ond rydyn ni'n dal i fod angen rhagor o wirfoddolwyr i'n helpu ni i daclo'r erydiad ac i helpu gyda gwaith trwsio, felly os hoffech ddod i ymuno â'n timau cysylltwch â ni drwy brecon@nationaltrust.org.uk

Cyfraniad gwirfoddolwyr yn hanfodol

Allem ni fyth ddod i ben gyda'r holl waith o drwsio a chynnal a chadw'r llwybrau heb gefnogaeth ein grwpiau o wirfoddolwyr. Eleni dechreuodd ein gwaith cadwraeth ar yr ucheldir gyda help myfyrwyr o Goleg Strode yn Street, Gwlad yr Haf a'r Clwb Dydd Iau, sef gwirfoddolwr wedi'u lleoli ar Ysgyryd Fawr ger Y Fenni, a ddaeth i gerdded mynydd Pen y Fâl i gynnal arolwg o niferoedd y Rugiar yn yr ardal. Yn anffodus welon ni ddim un, ond gwelwyd a chofnodwyd ddigonedd o'u baw, felly rydyn ni'n gwybod eu bod nhw yno - yn rhywle.

Gyda'r cynnydd sydd wedi bod yn nifer yr ymwelwyr, rydyn ni'n gweld sut mae rhai mannau wedi cael eu herydu'n wael a rhychau dwfn wedi datblygu oherwydd y pwysau parhaus gan gerddwyr ac effaith y tywydd. Gyda chymorth Coleg  Strode, dechreuom ar y gwaith ar un o'r mannau hyn unwaith eto, sef y rhan sy'n arwain i lawr o Graig Cwm Sere ac yn ymuno â'r llwybr sy'n dilyn y grib ar hyd cefn Cribyn. Bydd y gwaith yma'n parhau gan ddefnyddio amrywiol grwpiau o wirfoddolwyr gan fod angen gwneud llawer o balu a thirlunio yma.

Creithiau dwfn erydiad yn ardal ganolog Bannau Brycheiniog, cyn ail-ddiffinio'r llwybr
Rhychau dwfn mewn mannau yn ardal ganolog Bannau Brycheiniog
Creithiau dwfn erydiad yn ardal ganolog Bannau Brycheiniog, cyn ail-ddiffinio'r llwybr
Gwirfoddolwyr yn cywasgu'r ddaear i greu llwybr sydd wedi'i ddiffinio'n glir, yn ardal ganol Bannau Brycheiniog
Myfyrwyr o Goleg Strode yn cerdded ar lwybr sydd newydd ei ail-ddiffinio er mwyn cywasgu'r ddaear, yn ardal ganol Bannau Brycheiniog
Gwirfoddolwyr yn cywasgu'r ddaear i greu llwybr sydd wedi'i ddiffinio'n glir, yn ardal ganol Bannau Brycheiniog

Meddwl ymlaen...

Efallai i chi ddarllen yn ein bogiau blaenorol ein bod ni'n arfer llogi hofrennydd a pheilot bob blwyddyn i symud llwythi o gerrig mân i'w defnyddio i drwsio'r llwybrau. Mae defnyddio hofrennydd yn osgoi llawer o'r effaith mae defnyddio cerbydau yn ei gael ar y tir, yn ogystal ag erydiad. Rydyn ni wedi archebu'r hofrennydd ar gyfer gwaith eleni a 200 tunnell o gerrig mân hefyd.  Bydd y llwyth yn cael ei ddefnyddio i roi cyflenwad newydd o raean dros yr ardal ganol ar lwybr Pont ar Daf, sydd wedi gwisgo dros y chwe blynedd diwethaf. Mae'r erydiad wedi dod â'r pridd noeth yn ôl i'r wyneb. Mae'n fregus iawn ac wedi mynd yn fwdlyd ac yn anwastad i gerdded drosto. Gan mai Pont ar Daf yw'r prif fan i fynd i ddringo Pen y Fan, ac yn llwybr hygyrch iawn, rydyn ni am wneud yn siŵr ei fod yn addas i bob math o ddringwyr.

Os ydych chi wedi cael ei ysbrydoli gan waith Rob a thîm yr ucheldir, ac am wybod rhagor, dewch nôl mis nesa am ddiweddariad ac am olwg fanylach am ein gwaith cadwraeth mewn ardaloedd eraill.