Mehefin 2018 – Pwysigrwydd mawn

Victoria Squire, swyddog prosiect SMS Mawndiroedd Cymru (De) yn cynnal arolwg mawnog ar gomin Bryn Abergwesyn, Powys

Ym mis Ionawr 2018, dechreuwyd prosiect newydd yng Nghymru, gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn un o’r partneriaid. Mae Cynllun Rheoli Cynaliadwy Mawndiroedd Cymru (SMS) yn brosiect ar y cyd wedi’i ariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020 a Chronfa Amaethyddol ar gyfer Datblygu Gwledig yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Swyddog Prosiect Vicky yn sôn yn fanwl ynghylch sut y bydd hyn yn helpu i gyrraedd targed Gweinidogion sef rheoli mawndiroedd Cymru yn gynaliadwy erbyn 2020.

Cod y Mawndir

Mae hwn yn safon wirfoddol i brosiectau mawndiroedd y DU sydd am farchnata’r buddion hinsawdd o adfer mawndir. Bydd y prosiect hwn yn hyrwyddo ac arddangos y cod ledled Prydain. Rydym yn gobeithio y bydd y prosiect yn hyb cenedlaethol ar gyfer gwaith ymchwil ar fawndiroedd er mwyn rhannu’r wybodaeth â chymunedau ac ymchwilwyr trwy amrywiaeth o ddigwyddiadau ymwybyddiaeth, teithiau cerdded tywysedig ac anerchiadau.

Pwysigrwydd Mawn

A wyddoch chi fod mawndiroedd yn gorchuddio dim ond tua 3% o arwyneb y byd ond yn cynnwys mwy o garbon na holl fforestydd glaw y byd? Hefyd, o’r holl fawn a geir yn y byd, ceir 12% yn y DU.

Mae mawndiroedd yn ffurfio cynefin unigryw sy’n cefnogi amrywiaeth o rywogaethau planhigion yn ogystal â phryfed, adar a mamolion. Mae mawndiroedd yn gartref i nifer o rywogaethau sydd mewn perygl, megis y gylfinir a’r cornicyll aur. Mae mawndiroedd hefyd yn cynnwys llawer iawn o garbon oherwydd nid yw’r planhigion sy’n tyfu yno yn gallu dadelfennu’n llwyr, ac felly mae’r carbon yn y planhigion yn cael ei gloi yn y mawn. Mae mawndiroedd yn un o’r storfeydd carbon tirol pwysicaf yn y DU, ac yn cynnwys 20 gwaith mwy o garbon na’r holl fforestydd yn y DU.

Mae mawndiroedd hefyd yn ffenestr i’r gorffennol ac mae’n hysbys eu bod wedi cadw arteffactau yn berffaith o filoedd o flynyddoedd yn ôl. Yn ogystal, mae’r cylch hydrolegol yn cael ei effeithio gan gyflwr ein mawndiroedd. Mae llawer o’r dŵr a yfwn wedi ei ddraenio oddi ar fawndiroedd uchel ac mae wedi’i hidlo’n naturiol gan y mawn. Maen nhw hefyd yn chwarae rôl o ran atal llifogydd; gall mawndir iach ddal llawer mwy o ddŵr nag un sy’n erydu’n ddyfal ac felly gall gyfyngu difrod llifogydd yn bellach i lawr yr afon.

Mapio Tir Comin Abergwesyn

Amcangyfrifir bod 70,000 hectar o orgors yng Nghymru gyda 2,000 hectar ar Dir Comin Abergwesyn, un o’r safleoedd mwyaf i chwarae rhan yn y prosiect.

Golygfa ar draws Tir Comin Abergwesyn
Golygfa ar draws Tir Comin Abergwesyn, Cymru, yn ystod gwaith mapio ar y mawnogydd
Golygfa ar draws Tir Comin Abergwesyn

Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar fapio’r holl hagiau mawn (clogwyni mawn moel), rhigolau a chletiroedd mawn moel dros Abergwesyn gan ddefnyddio awyrluniau, fel y llun isod.

Awyrlun sy’n dangos yr hagiau mawn ar ran o Dir Comin Abergwesyn
Awyrlun sy’n dangos y clogwyni mawn moel ar ran o Dir Comin Abergwesyn, Cymru
Awyrlun sy’n dangos yr hagiau mawn ar ran o Dir Comin Abergwesyn

Mae hyn wedi rhoi modd i ni weithio allan ble i ganolbwyntio ymdrechion ein gwaith adfer ond cyn y gallwn ddechrau rhaid i ni fapio’r ardaloedd i roi syniad sylfaenol i ni o drechedd llystyfiant a dyfnder mawn. Mae hyn yn cynnwys cerdded grid 100m x 100m a stopio bob 100m i gofnodi’r rhywogaethau o blanhigion sy’n bresennol a mesur dyfnder y mawn – nid yw hi mor anodd ag y byddech yn meddwl. Mae gennym rodenni hir, sy’n sgriwio at ei gilydd ac rydym yn eu rhoi yn y ddaear nes ein bod yn taro’r graig oddi tano. Y dyfnaf a gofnodwyd gennym yn Abergwesyn hyd yn hyn yw 2.5m, sy’n golygu iddo ddechrau ffurfio 2,500 o flynyddoedd yn ôl!

Yn ogystal ag Abergwesyn,  yn rhan o’r prosiect hefyd byddwn yn gweithio ar safleoedd yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin, y Bannau Brycheiniog ac ar draws gogledd Cymru.

Ydych chi’n berchen ar fawnog? Hoffech chi wybod rhagor amdano? Oes angen gwaith adfer ar eich mawndir? Hoffech chi gymryd rhan ym mhrosiect Mawndiroedd Cymru? Os ateboch ‘Ie’ i unrhyw un o’r rhain, cysylltwch â ni oherwydd byddem wrth ein bodd i glywed gennych.

O un prosiect newydd i aelod newydd o staff, dewch yn ôl ym mis Gorffennaf i weld pa dasgau dyddiol y mae Abbi, ein haelod mwyaf newydd o dîm y Bannau Brycheiniog a Sir Fynwy, wedi bod yn eu gwneud yn y safleoedd mae hi’n gofalu amdanynt.