Paratoi am y tymor sydd i ddod

Golygfeydd pellgyrhaeddol o’r llwybr serth yn arwain i gopa Pen-y-fan

Yn ôl yr arfer mae llawer o waith i’w wneud ar y llwybrau troed sy’n arwain at Ben-y-fan. Mae paratoi a dod o hyd i ddeunyddiau ar gyfer y gwaith atgyweirio sydd ei angen i frwydro yn erbyn erydiad cyson y llwybrau troed a’r ardaloedd cyfagos yn gallu bod mor heriol â’r gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ei hun.

Dod o hyd i’r garreg

Byddwn yn treulio llawer o amser yn y misoedd nesaf yn dod o hyd i’r garreg. Rhaid iddi fod yn hen dywodfaen coch; dim ond defnyddiau sy’n cyd-fynd â’r dirwedd amgylchynol y caniateir i ni eu defnyddio. Rhaid i’r defnyddiau hyn fod mor lleol ag sy’n bosibl yn gorfforol – gan fod yr ardal wedi cael ei dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardal Cadwraeth Arbennig. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i ni ddod o hyd i garreg addas ac yna ei chloddio allan o lethrau’r bryniau, rhaid i ni gymryd beth sydd ar gael! Mae dod o hyd i garreg fel hyn yn cadw costau i lawr ac yn golygu y gallwn, yn bersonol, ddewis y garreg sydd ei hangen arnom bob blwyddyn. Am bob tunnell o gerrig rydym yn ei chasglu, rydym yn gallu gosod un metr sgwâr arall o lwybr troed.

Every tonne of stone means one square metre of footpath
The stone quarries of Pen Milan and Cwar Mawr in the central Brecon Beacons
Every tonne of stone means one square metre of footpath

Yn ogystal, rydym yn defnyddio dwy hen chwarel garreg ym Mhen Milan a Chwar Mawr. Mae tua 15 o safleoedd chwarel bach a ddefnyddiwyd yn wreiddiol ar gyfer cyflenwi teils to ar gyfer yr ardal leol, gan y byddai logisteg dod â llechi i lawr o Ogledd Cymru wedi bod yn annychmygol. Mae gweddillion y chwareli hyn yn cynnwys y garreg a wrthodwyd.

Rydym yn gobeithio dod o hyd i oddeutu 60 tunnell o gerrig, a fydd wedyn yn cael eu gollwng mewn hofrennydd i fannau strategol ar sawl llwybr troed yng nghanol y Bannau Brycheiniog. Defnyddir y garreg hon i ymestyn lled rhai o’r llwybrau ar oleddf o led. Mae angen gwneud hyn oherwydd nifer gynyddol y cerddwyr, ac i barhau i gwblhau’r llwybrau serth i’r copa.

Henrhyd, tirwedd unigryw

The largest single drop waterfalls in South Wales
Henrhyd waterfalls in the Nant Llech Valley
The largest single drop waterfalls in South Wales

Mewn mannau arall mae angen paratoadau eraill ar gyfer y flwyddyn i ddod, er enghraifft, sgwd  Henrhyd ym mhentref Coelbren. Mae’r rhaeadr, sef y rhaeadr uchaf yn Ne Cymru, wedi’i lleoli yn nyffryn Nant Llech, ac mae’r ardal hon hefyd wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’r ceunant yn llaith a choediog iawn, ac iddo briddoedd tenau a llethrau creigiog serth, ac mae’n hafan i blanhigion sy’n hoffi cysgod a lleithder fel mwsoglau, llysiau’r afu a chen. Ond mae daeareg y safle hwn yn golygu bod dosbarthu defnyddiau yn eithaf anodd, ac felly mae’n rhaid cario defnyddiau i lawr â llaw. Mae hyn yn cynnwys mân gerrig a ddefnyddir i roi wyneb ar y llwybrau, cerrig ar gyfer palmantu a phren i adnewyddu pontydd, gatiau, ffensys a grisiau; mae popeth yn ymddangos yn llawer trymach yma!

Henrhyd, a haven for shade and damp-loving plants like mosses, liverworts and lichen
Henrhyd is a heavily wooded gorge where you'll discover fungi and fauna
Henrhyd, a haven for shade and damp-loving plants like mosses, liverworts and lichen

Er mwyn helpu i gadw cefn gwlad yn hygyrch, mae llawer o waith caled yn cael ei wneud i gynnal ein lleoedd arbennig ac nid yw Henrhyd yn eithriad. Mae poblogrwydd yr ardal hon a’r glawogydd trwm diweddar yn creu erydiad, sy’n golygu bod y rhestr atgyweirio a chynnal a chadw yn parhau i dyfu. Ymhlith y pethau ar y rhestr waith eleni mae adnewyddu grisiau sy’n arwain i lawr at y rhaeadr o ochr y pentref, ailwynebu’r maes parcio a hefyd ailwynebu’r llwybr troed serth i lawr o’r maes parcio, a dodi cerrig “cwrb” ar ochrau’r llwybr i atal colli defnyddiau wyneb ymhellach. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein cynnydd ar ddiwedd y tymor.

Dewch yn ôl y mis nesaf lle bydd Sara, Rheolwr y Cymin yn rhannu’r hyn y mae’r tîm yn ei wneud yn y Tŷ Crwn Sioraidd a’r tiroedd sy’n edrych dros Drefynwy.