Rhaeadr uchaf de Prydain

Rhaeadr Henrhyd, yr uchaf yn Ne Cymru, ger Coelbren ym Mannau Brycheiniog

Mae rhaeadr uchaf De Cymru yn cuddio mewn dyffryn ar ymyl orllewinol Bannau Brycheiniog. Mae’n werth dod i weld Rhaeadr Henrhyd yn plymio 90 troedfedd (27m) i mewn i geunant serth ac mae Coedwig Graig Llech, o boptu’r rhaeadr, yn hafan i fywyd gwyllt.

Cerdded

Mae yna ddwy daith gerdded o’r maes parcio yn Henrhyd (cyswllt i safle allanol).  Os hoffech chi weld y rhaeadr yn unig, dilynwch y llwybr da o’r maes parcio i lawr at fan lle mae llwybrau’n ymuno yn y gwaelod.  O’r fan hon, trowch i’r chwith a chroeswch y bont dros Nant Llech a cherddwch i fyny’r grisiau pren i ymuno â’r llwybr.  Dwy funud i ffwrdd o’r fan hon y mae’r rhaeadr.  Dewch yn ôl i’r maes parcio ar hyd yr un llwybr.

Bywyd Gwyllt

Cerddwch yn ddistaw ar hyd y llwybr yn y cwm ac efallai cewch chi weld rhai o adar y goedwig fel cnocellod y coed, dringwyr bach, teloriaid a drywod.  Mae bronwennod y dŵr a siglennod yn aml i’w gweld yn hela am bryfed ar hyd yr afon.  Gwelwyd brithyll hefyd yn ceisio llamu’r rhaeadrau bychain.

Planhigion

Mae’r ceunant llaith, coediog, gyda’i briddoedd tenau a’i lethrau creigiog serth yn hafan i blanhigion sy’n hoffi cysgod a lleithder.  Cadwch lygad ar agor am fwsoglau, llysiau’r afu a chennau.  Oherwydd presenoldeb y planhigion diflodau hyn mae’r ardal wedi’i dynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Daeareg

Mae’r rhaeadr wedi ffurfio ar ffawt daearegol ar afon Nant Llech ac mae wedi cilio i fyny’r cwm cymaint â 165 troedfedd (50m) ers yr Oes Iâ ddiwethaf.  Un o’r enwau a roddwyd yn y gorffennol ar yr haen galed o dywodfaen sy’n ffurfio gwefus y rhaeadr yw ‘craig ffarwel’.  Byddai glowyr yn cloddio i lawr at yr haen hon ym mhyllau glo cymoedd De Cymru ac yna’n dweud ‘ffarwel’ gan mai ychydig iawn o obaith oedd o ddarganfod glo oddi tani.

Hanes

Yng nghanol yr 1800au gwnaed arolwg o’r ardal gan William Logan, daearegwr rhyngwladol enwog.  Wrth wneud arolwg i greu map daearegol manwl o feysydd glo De Cymru darganfyddodd ddwy goeden wedi ffosileiddio ar waelod y rhaeadr.  Gallwch weld y ddwy goeden y tu allan i Amgueddfa Abertawe.