
Mae hanes trist y bachgen bach 5 oed a aeth ar goll ar fynyddoedd Bannau Brycheiniog yn ystod haf 1900 yn dal i gael ei basio o un genhedlaeth i’r llall. Mae hi’n stori sydd wedi cyffwrdd calon llawer o bobl.
Ymweld â theulu
Ar 4 Awst 1900 penderfynodd glöwr o Faerdy, Cwm Rhondda Fach, fynd â Tommy ei fab pum mlwydd oed i weld ei fam-gu a’i dad-cu oedd yn ffermio gerllaw Aberhonddu. Fe aethon nhw ar y trên a’u bwriad oedd cerdded y bedair filltir olaf i Gwmllwch, ac at y tŷ fferm yn y cwm dan fynydd Pen y Fan.
Taith hir
Erbyn 8pm roedden nhw wedi cyrraedd y ‘Login’ - sy’n adfail nawr - lle'r oedd milwyr yn gwersylla yn ystod eu sesiynau ymarfer saethu yng Nghwm Gwdi. Roedd y tad a’r mab wedi stopio i gael diod a rhywbeth i fwyta pan wnaethon nhw gwrdd â thad-cu Tommy a’i gefnder William, oedd yn 13 mlwydd oed. Gofynnwyd i William i fynd nôl i’r fferm i ddweud wrth ei fam-gu i ddisgwyl Tommy a’i dad, a rhedodd Tommy i fyny i’r cwm ar ei ôl.
Pan oedd y ddau fachgen wedi cyrraedd hanner ffordd, cafodd Tommy ei ddychryn - gan y tywyllwch efallai. Dechreuodd grio ac roedd eisiau mynd nôl at ei dad yn y Login. Felly gwahanodd y ddau fachgen. Aeth William i roi’r neges i’w fam-gu a chyrhaeddodd nôl yn Login o fewn chwarter awr - ond nid oedd golwg o Tommy.
Ar goll
Dechreuodd tad a thad-cu Tommy edrych amdano yn syth, a daeth milwyr o’r gwersyll i’w helpu. Fe fuon nhw’n chwilio tan hanner nos a daeth pawb nôl am 3am i ail-ddechrau chwilio. Parhaodd y chwilio am wythnosau. Bob dydd, daeth criwiau o’r heddlu, milwyr, ffermwyr a gwirfoddolwyr eraill i archwilio’r ardal yn systematig, heb unrhyw lwc.
Y freuddwyd
Ar ôl darllen am y chwilio, mae’n debyg fod gwraig i arddwr a oedd yn byw i’r gogledd o Aberhonddu wedi breuddwydio am yr union fan lle fyddai Tommy’n cael ei ffeindio. Cafodd y wraig gwpwl o ddyddiau anesmwyth cyn llwyddo perswadio’i gŵr i fenthyca merlen a thrap ar ddydd Sul 2 Medi i fynd â hi ac aelodau eraill o’r teulu i Fannau Brycheiniog. Nid oedd un aelod o’r grŵp bach hwn wedi dringo yno o’r blaen.
Roedd y criw wrthi’n cerdded dros dir agored ar hyd y grib sy’n arwain at gopa Pen y Fan pan drodd Mr Hammer, oedd ychydig lathenni o flaen pawb arall, yn ôl at y gweddill gyda golwg wedi dychryn ar ei wyneb. Roedd e wedi dod o hyd i gorff Tommy bach.
Cofeb
Ni allai neu esbonio sut roedd y bachgen pum mlwydd oed wedi llwyddo cyrraedd y fan lle cafodd ei gorff ei ddarganfod. Roedd wedi dringo 1,300 o droedfeddi o’r Login. Heddiw mae’r union fan lle cafodd ei gorff ei ddarganfod wedi cael ei farcio gydag obelisg. Rhoddodd aelodau’r rheithgor yn y cwest eu ffioedd tuag at y gost o godi’r obelisg, ar ôl dod i’r casgliad ei fod wedi marw o flinder ac oerfel.
Roedd hi’n dros 60 mlynedd arall cyn i’r tîm Achub Mynydd cyntaf gael ei sefydlu ym Mannau Brycheiniog.
Ffynhonnell: Crynodeb o daflen Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ‘Victim of the Beacons’.