Bywyd gwyllt ym Mannau Brycheiniog a Sir Fynwy
Mae Bannau Brycheiniog a Sir Fynwy yn cynnig cyfoeth o fywyd gwyllt, sydd mor amrywiol â’r dirwedd sy’n gynefin i’r gwahanol rywogaethau. Mae’r coed hynafol sydd i’w gweld yn Ystâd Cleidda a Dyffryn Tarell yn cyferbynnu’n drawiadol â'i gilydd, mae llond y lle o glychau’r gog yng Nghoed-y-Bwnydd yn y gwanwyn ac mae morgrugyn prinnaf y DU yn ffynnu yn Y Cymin.