Dringwch i ganol y cymylau wrth gerdded at gopaon Pen y Fan a’r Corn Du – y ddau gopa uchaf yn ne Prydain. Dewch i ddarganfod teithiau cerdded gwyllt a golygfeydd syfrdanol yng nghalon dramatig ac anghysbell Bannau Brycheiniog.
Dewch i ryfeddu at Raeadr Henrhyd wrth iddi blymio 90 troedfedd i geunant coediog Nant Llech.
Cynefinoedd gwerthfawr a chynyddol brin yw coedwigoedd lled-hynafol. Maen nhw’n cynnig hafan i fywyd gwyllt. Mae’r coed hyn wedi bod yn tyfu ar lethrau isaf Bannau Brycheiniog ers canrifoedd maith ac maen nhw’n gartref pwysig iawn i ffyngau ac infertebratau prin.