Cwm Llwch o Gwm Gwdi
Hon yw’r ffordd anodd i gopa mynydd uchaf de Prydain, Pen y Fan. Gan ddechrau ychydig dros 1000ft (310m) uwchben lefel y môr, mae gennych 1893ft (576m) o waith dringo cyn cyrraedd y copa ar 2908ft (886m).
Edrychwch ar nodweddion daearyddol ac archaeolegol ar hyd y ffordd
Fe wnewch hefyd weld copa Corn Du, obelisg Tommy Jones a’r Llyn Llwch chwedlonol. Cofiwch fynd ar ddiwrnod clir. Bryd hynny, mae’r golygfeydd yn wirioneddol ysblennydd.

Dechrau:
Maes parcio Cwm Gwdi, cyf grid: SO025248
1
O’r maes parcio, ewch ar y ffordd darmac i fyny at y giât a’r gamfa, yna ar hyd ochr cae. Yn yr ardal hon, yng nghanol yr eithin pigog fe welwch sawl cuddfur reifflau a magnelau. Fe’u defnyddiwyd gan y fyddin i ymarfer tanio draw at fryn Allt Ddu gyferbyn.
2
Camwch dros y gamfa. Ychydig i’ch dde mae trac glaswellt yn croesi sawl rhigol bas yn y glaswellt, yn nghanol y rhedyn ac yn arwain at blatfform a fu unwaith yn gartref i ferlod y chwarel. Cadwch i’r dde, yn agos i’r ochr a dilynwch yr hen drac merlod a sled i fyny heibio sawl chwarel fechan. Cymerwch ofal, gan fod llawer o gerrig rhydd o gwmpas.
Cwm Gwdi
Nôl ar ddiwedd y cyfnod Fictoraidd sefydlwyd gwersyll hyfforddi milwrol yng Nghwm Gwdi. Roedd y milwyr yn cysgu mewn pebyll yma tan y 1960au pan gafodd ffreutur, ystafelloedd ymolchi a chytiau Nissen eu hadeiladu. Parhaodd y fyddin i ddefnyddio’r gwersyll fel safle ar gyfer cerdded bryniau ‘ymosodol’ tan 1996 pan ddaeth y tir yn eiddo i ni.
3
Daliwch i ddringo a phasio heibio chwarel fawr. Torrwyd cerrig teils ar gyfer toeau o’r chwarel hon yn ôl yn y 18fed ganrif. Unwaith i chi gyrraedd y top, trowch i’r dde a dilynwch y llwybr amlwg ar hyd y grib a elwir yn Gefn Cwm Llwch, yr holl ffordd i fyny i gopa Pen y Fan. Wrth i chi ymdopi â’r rhan olaf, serth gallwch edrych i lawr, ar eich ochr chwith, at afon Nant Sere a draw at gopa Cribyn.
Cribyn
Hwn yw’r pedwerydd copa uchaf yng nghanol Bannau Brycheiniog. Mae’r llwybr o’r cyfrwy rhwng Pen y Fan a Chribyn wedi cael wyneb o gerrig er mwyn lleihau effaith y cannoedd o filoedd o gerddwyr sy’n defnyddio’r llwybr bob blwyddyn.
4
Unwaith i chi gael tamed o seibiant ar gopa Pen y Fan, dilynwch y llwybr i lawr i’r dde ac i fyny i gopa Corn Du, sydd yn 2864ft (873m). O’r fan hon chwiliwch am y llwybr serth sy’n mynd i lawr o’r copa ar y pen gogledd orllewinol. Ewch i lawr y llwybr hwn a chadw at yr ochr dde, yn agos at ymyl Cwm Llwch. Dilynwch y llwybr hwn at obelisg Tommy Jones.
Obelisg Tommy Jones
Mae’r obelisg yn gofeb i hanes trist bachgen bach o’r enw Tommy Jones a aeth ar goll ac a fu farw ar Fannau Brycheiniog yn 1900. Bu pobl leol a milwyr yn chwilio amdano am 29 diwrnod cyn i’w gorff gael ei ddarganfod yn y man lle mae’r obelisg nawr yn sefyll.
5
O’r obelisg, dilynwch y llwybr i lawr ac i’r dde nes cyrraedd Llyn Cwm Llwch. Trowch i’r chwith a pharhau i ddilyn y llwybr i lawr, gan groesi’r gamfa a gadael tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Daliwch i anelu tua’r gogledd, heibio bwthyn ac yna maes parcio nes i chi gyrraedd ffordd darmac.
Llyn Cwm Llwch
Gadawyd y llyn rhewlifol hwn ar ôl pan enciliodd y rhewlifoedd a naddodd y mynyddoedd hyn ar ddiwedd yr Oes Iâ ddiwethaf. Mae llawer o chwedlau yn gysylltiedig â Llyn Cwm Llwch ac mae tylwyth teg yn byw ar ynys anweledig yn y llyn, yn ôl y sôn.
6
Parhewch ar hyd y ffordd darmac nes cyrraedd croesffordd. Trowch i’r dde a dilynwch y ffordd am ½ milltir (800m) nes cyrraedd troad i’r dde gyferbyn â bwthyn Heolfanog. Cymerwch y troad i’r dde a pharhau ar y ffordd darmac am ½ milltir (800m) arall nes i chi gyrraedd troad sydyn i’r chwith. Mae’r fynedfa i faes parcio Cwm Gwdi ar eich llaw dde.
Diwedd:
Maes parcio Cwm Gwdi, cyf grid: SO025248