Cylchdaith Pen y Fan a Chorn Du
Taith gerdded fynydd egnïol ar lwybrau troed da i gopa Pen y Fan a Chorn Du.
Byddwch yn barod am dywydd mynydd sy’n newid yn gyflym
Mae map a chwmpawd, dillad rhag glaw, chwiban a thortsh i gyd yn hanfodol ar gyfer y daith gerdded hon, gan fod y tywydd yn gyfnewidiol yn y mynyddoedd hyn.

Dechrau:
Maes parcio Pont ar Daf, cyf grid: SN988199
1
Ewch ar y llwybr troed drwy’r coed ar ben deheuol y maes parcio. Ewch drwy’r giât mochyn a chroesi’r bont bren dros yr afon. Oddi yma, dilynwch y llwybr troed i fyny’r rhiw tuag at Fwlch Duwynt. Wrth i chi ddringo’n raddol fe welwch y dulliau gwahanol o adeiladu llwybrau troed ry’n ni’n defnyddio ar Fannau Brycheiniog. Mae’r rhigolau ar yr ochr uchaf i’r llwybr yn cymryd y dŵr sy’n llifo i lawr y rhiw ac yn ei gyfeirio i fannau croesi addas lle ry’n ni wedi adeiladu ceuffosydd o dan y llwybr. Mae hyn yn cadw’r rhan fwyaf o’r dŵr oddi ar y llwybr troed ac yn atal erydiad. Mae rhannau o’r llwybr troed wedi’u gwneud o gerrig sydd wedi cael eu gosod yn fertigol, neu ‘ar eu cant’ ac yna’u pacio’n dynn gyda cherrig mân a phridd. Mae’r dull hwn o greu wyneb caled yn dyddio’n ôl cyn y cyfnod Rhufeinig, ond mae’n gostus ac yn cymryd llawer iawn o amser.
Corn Du
Corn Du yw’r ail gopa uchaf ym Mannau Brycheiniog. Mae’n aml yn denu llai o sylw na’i gymydog enwocach, Pen y Fan, ond mae’n fynydd hardd yn ei rinwedd ei hun.
2
Unwaith i chi gyrraedd Bwlch Duwynt, dilynwch y llwybr sydd ar y pwynt 11 o’r gloch; mae hwn yn arwain dros lethr deheuol Corn Du. Cyn bo hir fe fyddwch chi’n cyrraedd y cyfrwy rhwng Corn Du a Phen y Fan. O’r fan hon mae golygfeydd bendigedig tua’r de, i lawr Dyffryn Neuadd i’r cronfeydd sydd uwchben Merthyr Tudful. Daliwch i fynd ar hyd y llwybr troed am y rhan olaf, galed o’r daith nes cyrraedd copa mynydd uchaf de Prydain – Pen y Fan – sy’n 2906 troedfedd (886m).
Pen y Fan
Pen y Fan yw’r mynydd uchaf yn ne Prydain. Yn haeddiannol boblogaidd gyda cherddwyr, mae’r golygfeydd o’r copa yn wirioneddol ysblennydd. Yn aml dyma derfyn sawl taith gerdded ond mae digon o Fannau eraill sy’n werth eu harchwilio hefyd.
3
Mae’r garnedd ar y copa yn siambr gladdu o’r Oes Efydd. Pan gafodd ei chloddio yn 1991 canfuwyd tlws a blaen gwaywffon y tu mewn i’r siambr. Mae’r golygfeydd o’r copa yn wych, mewn tywydd braf. I’r gogledd, gallwch weld tref Aberhonddu ac ar ddiwrnod hynod o braf, bydd y rhai mwyaf craff yn gallu gweld Cader Idris. I’r dwyrain, gallwch weld ychydig o Fynydd Pen y Fal yn y pellter. Ar ddiwrnod clir gallwch weld Môr Hafren ym Mhorthcawl i’r de orllewin. Wedi i chi orffen mwynhau’r golygfeydd, ewch yn ôl i’r cyfrwy rhwng Pen y Fan a Chorn Du, a dilynwch y llwybr troed carreg i gopa gwastad Corn Du.
Copa gwastad
Ar un cyfnod roedd mawn a glaswellt yn gorchuddio’r copa. Mae dyffryn a chronfa ddŵr Neuadd yn ymestyn tua’r de.
4
Roedd y garnedd ar ben Corn Du hefyd yn siambr gladdu o’r Oes Efydd. Gan edrych i’r gogledd-orllewin tuag at Gwm Llwch fe welwch Lyn Cwm Llwch. Ar y grib mae obelisg Tommy Jones, cofeb i fachgen pum mlwydd oed a fu farw ar ôl mynd ar goll ar y Bannau yn 1900. Gadewch Corn Du o’r pen gogleddol ac ewch i lawr y rhan serth i gyrraedd y llwybr carreg islaw sy’n arwain at yr obelisg. Ar ôl rhyw 330 llath (300m) mae’r llwybr yn rhannu. Ewch ar y llwybr caniataol i’r chwith sy’n arwain at y nant, sef Blaen Taf Fawr. Wedi i chi groesi’r nant, anelwch i fyny gan ddilyn y llwybr i’r giât ar y Gyrn. Mae llawer o rug yn tyfu ar Y Gyrn gan fod lefel y pori gan ddefaid a merlod yn cael ei reoli’n ofalus er mwyn creu cynefin iach ar gyfer adar yr ucheldir fel grugiar goch.

5
Daliwch i ddilyn y llwybr ac ewch i lawr i’r A470 yn Storey Arms. Mae’r hen ffordd goets i’w gweld o hyd ar y dde wrth i chi gyrraedd y giât. Trowch i’r chwith a dilynwch y ffordd yn ôl i faes parcio Pont ar Daf.
Storey Arms
Ar un adeg yn dafarn goets, mae’r Storey Arms yn awr yn ganolfan addysg awyr agored.
Diwedd:
Maes parcio Pont ar Daf, cyf grid: SN988199