Diwrnod cyntaf taith gerdded Her Wych Bannau Brycheiniog
Mae Mark Rowe, awdur teithiau a cherddwr profiadol, yn eich annog i roi cynnig ar yr Her Wych hon sy’n para dau ddiwrnod ac yn eich arwain o Aberhonddu i’r Fenni. Fe fyddwch yn teithio dros y mynyddoedd uchel ac ar hyd gamlas dawel Aberhonddu a Mynwy. Mae’r diwrnod cyntaf yn dechrau o Aberhonddu ac yn anelu at fynyddoedd Bannau Brycheiniog.

Dechrau:
Aberhonddu, cyf grid: SO043286
1
Dilynwch y ffordd allan o’r dref ar ben gorllewinol Aberhonddu ar hyd Stryd Newgate, gan droi i fyny Ffordd Ffrwgrech, gyda thafarn y Drovers Arms ar eich llaw dde.
2
Yn y fan lle mae tair ffordd yn fforchio, cymerwch y chwith bellaf. Dilynwch y ffordd hyd at a thros y grid gwartheg (gydag arwydd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cwm Gwdi) a pharhau i fynd lan heibio’r maes parcio ac i’r bryn.
Cwm Gwdi
Roedd Cwm Gwdi unwaith yn wersyll milwrol. Mae’r maes parcio yn y fan lle arferai cytiau Nissen sefyll (adeiladau silindrog wedi’u gwneud o ddur, a ddefnyddiwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd). Roedd y fyddin yn defnyddio bryn Allt Ddu, ar y chwith, ar gyfer ymarfer saethu morter.
3
Unwaith i chi groesi’r ail gamfa, dilynwch y llwybr i fyny Cefn Cwm Llwch at gopa Pen y Fan, sydd yn 2,906ft (886m) o uchder.
Pen y Fan
Yn 2,906ft (886m), Pen y Fan yw’r mynydd uchaf yn ne Prydain. Mae dros 250,000 o bobl yn cerdded i’r copa bob blwyddyn, ac o ganlyniad mae £100,000 yn cael ei wario ar adeiladu a chynnal llwybrau troed.
4
Gan edrych ar yr arwydd i Ben y Fan, trowch i’r dde ac anelwch i lawr y grib, ac yna i fyny at y Cribyn. Dilynwch y grib i lawr at y trac cerrig.
Craig Cwm Sere
Mae’r llwybr o gopa Pen y Fan at y Cribyn wedi cael wyneb o gerrig sydd wedi cael eu gosod yn fertigol, neu ‘ar eu cant’. Mae’r dull hwn o lwybr yn dyddio nôl i gyfnod ymhell cyn yr Oes Rufeinig. Nid yw’n gwisgo’n hawdd ond mae’n cymryd tipyn o amser i’w adeiladu. Cymerodd y llwybr hwn dros bedair blynedd i’w adeiladu, gyda chymorth staff a gwirfoddolwyr ar wyliau gwaith.
5
Anelwch i fyny, gan gymryd llwybr cyfuchlin ar Fan y Big. Ychydig wedi’r garreg fawr sy’n gorwedd yn gadarn ar eich llaw chwith (SO041197) – hanner ffordd o amgylch y grib, ewch ar y trac bach hanner ffordd i’r dde ar draws y rhostir. Mae hwn yn arwain at garnedd fechan a chasgliad sylweddol, blêr o gerrig a darnau onglog o graig chwilfriw (SO047189). Mae’r llwybr yn dal i fynd yn ei flaen ac yna’n mynd tua’r chwith, gan ymuno â thrac amlwg ger rhaeadrau Blaen Caerfanell.
6
Dilynwch y llwybr hwn ar hyd ymyl y grib ac i lawr i’r maes parcio.
Diwedd:
Y Fenni, cyf grid: SO298143