Llwybr Glyn Tarell Uchaf
Dilynwch y dyffryn rhewlifol hwn lawr y trac cerrig sy’n dyddio o’r 18ed ganrif ac a fu unwaith yn brif ffordd rhwng Canolbarth Lloegr a Chaerdydd.
Ymlwybrwch yn hamddenol ger Afon Tarell
Croeswch y dyffryn a dilynwch yr Afon Tarell, gan basio olion hen ffermdai fu’n llawn bywyd ‘slawer dydd pan oedd ffordd y goets fawr yn ei bri.

Dechrau:
Storey Arms, cyfeirnod grid: SN982203
1
Dechreuwch ar y llwybr trwy groesi’r ffordd o’r maes parcio fel eich bod tu fas y Storey Arms (tafarn y goets fawr unwaith, ond bellach yn ganolfan addysg awyr agored Dinas Caerdydd). Cymerwch y trac i’r chwith o’r ganolfan, lawr y dyffryn tuag at Aberhonddu a phasio drwy giât mochyn a chroesi pont garreg.
Golygfeydd dramatig
Unwaith i chi ddechrau cerdded lawr ffordd y goets fawr, gofalwch eich bod yn bwrw golwg nôl tuag at yr olygfa ddramatig o Graig Cerrig Gleisiad, y pant rhewlifol sy’n edrych dros yr A470. Erbyn hyn, mae’n Warchodfa Natur Cenedlaethol dan ofal Cyfoeth Naturiol Cymru.
2
Ymlaen â chi lawr y bryn ar hyd ffordd y goets fawr. Ar y chwith i chi, drws nesa i’r afon islaw’r briffordd newydd, fe welwch hen gorlannau carreg ar gyfer defaid. Defnyddiwyd y corlannau hyn i olchi’r defaid cyn mynd â nhw i’r farchnad. Ewch drwy giât fawr ac ymlaen â chi nes cyrraedd camfa ar eich chwith, gydag arwydd Hostel Ieuenctid.
Coed hynafol
Mae llawer o’n coed hynafol i’w gweld o ffordd y goets fawr sy’n rhedeg i’r gogledd o Storey Arms. O bellter mae’n nhw’n edrych fel unrhyw goed eraill, ond o graffu’n agos mae’n nhw’n gau, yn gnotiog ac yn llawn bywyd. Mae rhywogaethau fel gwern, bedw, criafol a deri i’w gweld yn y dyffryn.
3
Unwaith i chi groesi’r gamfa, cerddwch lawr i’r afon a’i chroesi ger y bont bren. Yn union uwchben y bont mae olion siambr gladdu o’r Oes Efydd. Trowch i’r dde a dilynwch y ffens uwchben yr afon nes dod at gamfa arall.
4
Nawr mae angen dilyn y llwybr ger y ffens ar hyd dyffryn yr afon. Fe fyddwch yn croesi sawl camfa a chae. Cadwch lygad ar agor, am fod bywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm o’ch cwmpas ym mhob man.
Afon Tarell
Mae’r afon yn gartref i ddyfrgwn a bronwennod y dŵr. Mae’n debyg bod eogiaid (samwn) a sewin (brithyll môr) wedi nofio lan yr afon hon, sy’n dipyn o gamp o ystyried bod yr Afon Tarell yn llifo mewn i’r Afon Wysg sy’n teithio yr holl ffordd i’r môr yng Nghasnewydd. Cadwch lygad ar agor am y barcud coch.
5
Cadwch yr afon a’r ffens ar y dde i chi nes dod i ddiwedd y caeau. Ewch dros y gamfa, dros y bont ac i’r ffordd darmac, gan droi wedyn i’r dde i fyny a heibio bythynnod o’r enw Glanrhyd Hen. Ewch yn syth yn eich blaen, a bydd y ffordd darmac yn diweddu yn fferm Blaen Glyn a swyddfa’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ry’ch chi nôl nawr ar drac cerrig hen ffordd y goets fawr, a dilynwch hwn yr holl ffordd nôl lan i Storey Arms.
Hen fragdy a thafarn
Tafarn a bragdy oedd bythynnod Glanrhyd 'slawer dydd. Roedden nhw’n cynnig gwasanaeth pwysig i deithwyr ar yr hen ffordd nôl yn y 18ed ganrif. Byddai’r porthmyn yn gadael eu defaid dan lygaid gofalus eu meibion, ger yr afon (mewn ardal o fewn cylch o goed pîn) ac yn troi am y dafarn gyda’r hwyr.
Diwedd:
Storey Arms, cyfeirnod grid: SN982203