Taith gerdded Rhaeadr Henrhyd a Nant Llech
Aiff y daith gerdded hon â chi i Raeadr Henrhyd, y rhaeadr uchaf yn Ne Cymru.
Edmygwch y rhaeadrau ysblennydd yn llifo’n llawn
Ar ôl i chi weld y rhaeadrau, byddwch yn cerdded lawr i ddyffryn Nant Llech gan fynd heibio safle tirlithriad a hefyd hen felin ddŵr. Mae Henrhyd ar ei orau ar ôl cawod drom! Cymerwch ofal oherwydd gall y llwybrau fod yn llithrig iawn.

Dechrau:
Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cyf grid: SN853121
1
Dechreuwch eich taith gerdded o faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a mynd trwy ddwy giât, gan ddilyn y llwybr troed i lawr y llethr i gyffordd llwybr ar y gwaelod. Trowch i'r chwith a chroeswch y bont bren, gan gerdded i fyny’r grisiau serth i’r llwybr troed ar y brig. Adeiladwyd y bont ym 1985 gan dîm o wirfoddolwyr rhyngwladol. Ychwanegwyd y grisiau yn 2001 yn dilyn tirlithriad a ddinistriodd y llwybr gwreiddiol. Parhewch ar hyd y llwybr troed at y rhaeadr. Sgwd Henrhyd yw’r uchaf yn Ne Cymru ar 90 troedfedd (27m). Cymerwch ofal oherwydd gall y chwistrelliad o’r rhaeadr wneud y ddaear yn llithrig. Unwaith y byddwch chi wedi cymryd amser i fwynhau’r rhaeadr ysblennydd, ewch yn ôl ar draws y bont i gyffordd y llwybr.
Rhaeadr Henrhyd a Choelbren
Mae Sgwd Henrhyd yn plymio i mewn i Geunant Graig Llech, dyffryn amgaeedig ac iddo ochrau serth sy’n creu ei ficro-hinsawdd ei hun lle mae mwsogl a rhedyn yn ffynnu. Mae’r pentref cyfagos Coelbren wedi’i lleoli ar ochr orllewinol Parc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog. Yn wreiddiol yn gapel ac yn gasgliad o ffermydd - tyfodd Coelbren yn gyflym gyda dyfodiad Tramffordd Coedwig Aberhonddu yn 1820 (darllenwch am John Christie), ac yn fuan wedyn adeiladwyd rheilffordd Aberhonddu, Abertawe a Chastell-nNedd yng nghanol y 1800au – gan greu Cyffordd Coelbren. Mae Heol yr Orsaf yn gliw i gysylltiadau rheilffordd y pentrefi er bod y Rhufeiniaid wedi trechu pobl oes Victoria 2000 o flynyddoedd yn ôl pan adeiladwyd Sarn Helen (Ffordd Rufeinig) gerllaw gyda chaer a gwersyll cyrch yn agos iddi - y cyfan wedi’u hadeiladu yn negawdau cyntaf y Feddiannaeth Rufeinig (tua OC43 i OD410).

2
Ewch yn syth ymlaen, gan ddilyn y llwybr troed gyda Nant Llech ar eich chwith. Mae’r coed sy’n glynu wrth ochrau serth y dyffryn yn dderw digoes ac ynn yn bennaf, er y gallwch hefyd ddod o hyd i pisgwydd dail bach, gwern a llwyf llydanddail. Mae llawer o’r coed ynn aeddfed wedi cael eu heffeithio gan glefyd coed ynn ac mae’n bosibl y byddwn yn gweld y rhain yn diflannu ymhen amser. Dilynwch y llwybr troed ac ar ôl i chi groesi llwybr pren, byddwch yn gallu gweld y rhaeadr lai ar y chwith.
Rhaeadrau a sgydau eraill
Weithiau gellir gweld brithyll yn ceisio neidio’r rhaeadr fach. Mae’r dyffryn yn hafan i fywyd gwyllt lle gellir clywed a gweld llawer o adar y coetir. Cadwch eich llygaid ar agor ar gyfer trochwyr neu hyd yn oed glas y dorlan.
3
Parhewch i ddilyn y llwybr troed nes eich bod yn mynd drwy giât sy’n nodi diwedd tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yna croeswch bont fach a pharhewch i ddilyn y llwybr i lawr y dyffryn. Ar ôl tua 15 munud, byddwch yn croesi safle hen dirlithriad mawr. Mae’r nodweddion hyn yn rhan o’r prosesau naturiol sydd wedi helpu i greu tirwedd ddramatig y ceunant serth hwn.
4
Parhewch ar hyd y llwybr hwn nes eich bod yn cyrraedd safle’r felin ddŵr segur - Melin Llech (mae’r adeiladau hyn yn eiddo preifat, peidiwch â mynd i mewn). O Felin Llech, ewch ymlaen heibio’r bont ar y chwith a dilynwch y llwybr i fyny’r llethr am tua 23 metr. Ymunwch â’r llwybr troed ar eich chwith a pharhewch ar hyd y llwybr hwn at giât mochyn a ffordd fach. Croeswch y ffordd ac ewch i’r dde i giât mochyn arall ar y chwith.
Gwarchod ein lleoedd arbennig
Mae llawer o waith caled yn mynd rhagddo i gynnal ein lleoedd arbennig ac nid yw Henrhyd yn eithriad. Mae tîm o staff a gwirfoddolwyr ymroddedig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio ar y llwybrau troed, y pontydd, y camfeydd a’r gatiau niferus bob blwyddyn i helpu i gadw cefn gwlad yn hygyrch i chi ei fwynhau.
5
Ewch drwy’r giât mochyn yna dilynwch y llwybr nes eich bod yn gweld Afon Tawe. Mae’r afon hon yn llifo drwy’r ffordd i Abertawe ac i Fôr Hafren. Rydych chi bellach hanner ffordd drwy’r daith. Nawr gallwch ddychwelyd i’r ffordd fach ger y llwybr rydych newydd ei ddilyn. Wrth y ffordd, gallwch naill ai droi i’r chwith i fyny’r llethr a dilyn y lonydd yn ôl i’r maes parcio neu, ewch yn ôl yr holl ffordd i Sgwd Henrhyd gan ddilyn y llwybr ger Nant Llech.
Diwedd:
Y Fenni, cyf grid: SO298143