
Cewch gymryd rhan a dysgu mwy am grefft trwsio llwybrau trwy ymuno ag un o’n dyddiau ‘help llaw’ misol.
Mae'r ffaith fod cynifer o bobl yn cerdded llwybrau Eryri a bod yr ardal yn cael cymaint o law yn golygu bod erydiad yn gallu bod yn broblem fawr. Gall achosi creithiau hyll ar y dirwedd a difrodi cynefinoedd mynyddig gwerthfawr.
Ymunwch â’r tîm
Byddwn yn cydweithio â Chymdeithas Eryri i gynnig cyfres o ddyddiau ‘help llaw’ sy’n canolbwyntio ar lwybr gwahanol bob mis. Os hoffech fwynhau golygfeydd gwych a chael tipyn o ymarfer corff, beth am ymuno â’n tîm a chadw’r llwybrau cerrig mewn cyflwr ardderchog?
Dywedodd Ned Feesey, Ceidwad Llwybrau Troed, “Bwriad y dyddiau gwirfoddoli hyn yw dysgu am waith ar y llwybrau a rhoi rhywbeth yn ôl i’r ardal hardd rydan ni’n ei mwynhau ac yn ei charu. Byddwn wrth ein bodd o gael pobl yn dod i roi cynnig ar ein gwaith ni. Does dim rhaid i chi fod yn eithriadol o ffit – mae sawl ffordd y gall rhywun gyfrannu at y gwaith.”
Cynhelir y dyddiau ‘help llaw’ misol ar Sadwrn cyntaf y mis rhwng mis Mawrth a mis Hydref. Mae rhagor o fanylion yn y rhestr isod.
Symud ymlaen
Diolch i apêl lwyddiannus i godi £250,000 yn 2017, mae ein tîm wedi dechrau gweithio ar yr ardaloedd sydd wedi dioddef fwyaf a nod y dyddiau ‘help llaw’ yw adeiladu ar y gwaith hwn.
Meddai Ned Feesey, Ceidwad Llwybrau Troed, “Mae wedi bod yn waith caled ond rydan ni wedi llwyddo i drwsio tipyn go lew o'r llwybrau, gan ganolbwyntio ar lethrau uchaf yr Wyddfa a Thryfan. Rydan ni wedi llenwi ac ailhadu nifer o greithiau erydiad – un ohonyn nhw'n mesur 20 metr ar draws."
Ac meddai, “Mae llawer i’w wneud o hyd ac os oes gennych chi amser i’w roi, byddai hynny’n help mawr.”
Os hoffech wybod rhagor neu gadw lle yn y dyddiau ‘help llaw’, cysylltwch â'r tîm.
Upcoming events
Sorry, there are no upcoming events at this place.