Sgramblo
Ar fynydd Tryfan y bu Edmund Hilary a’i dîm yn hyfforddi ar gyfer dringo Everest. Mae Tryfan yn aml yn cael ei ddewis gan bobl fel eu hoff fynydd. Ond mae’r dirwedd yn greigiog, a’r cerdded felly yn heriol iawn gyda gwahanol lefelau o sgramblo.
Dringo
Mae’r slabiau a’r creigiau yng Nghwm Idwal ac ar fynyddoedd Tryfan a’r Glyderau yn enwog gyda dringwyr a cherddwyr dros y byd. Daw tua 400,000 o ymwelwyr yma bob blwyddyn.
Ar y Glyderau hefyd y mae caban Helyg, un or cytia mynydda cyntaf y Deyrnas Unedig a agorwyd yn 1934.
Mae hyfforddiant gweithgareddau awyr agored ar gael mewn canolfannau lleol fel y Ganolfan Fynydda Genedlaethol ym Mhlas y Brenin, Capel Curig.
Bowldro
Mae poblogrwydd bowldro, sef dringo lefel isel heb gymorth rhaff, yn tyfu’n gyflym. Mae’r Carneddau a’r Glyderau yn cynnig cyfleoedd ardderchog ar gyfer bowldro, yn aml ar glogfeini rhewlifol mawr . Mae clogfeini’r RAC yn Nyffryn Mymbyr yn lle ardderchog roi cynnig arni, a phrofi eich sgiliau!