Stori drist o eiddigedd, trachwant a marwolaeth
Yr enw ar y marian rhewlifol mwyaf yn y cwm yw Bedd y Cawr. Yn ôl y sôn dyma feddrod Idwal, cawr o un o’r chwedlau a gollwyd yn niwl y canrifoedd.
Mae’r llyn wedi cael ei enwi ar ôl gŵr ifanc a fu farw’n drasig ac yn ddi-angen. Honna’r chwedl mai mab y tywysog o’r 12fed ganrif, Owain Gwynedd, oedd Idwal. Roedd yn fachgen hardd ac ysgolheigaidd ; nid oedd deunydd milwr ynddo o gwbl. Felly fe gafodd ei anfon ei ffwrdd i aros yn ddiogel gyda’i ewythr, Nefydd, tra bo’i dad yn rhyfela.
Dyn cenfigennus oedd Nefydd. Roedd ganddo fab o’r enw Rhun, ond roedd y bachgen hwn braidd yn dwp a di-fflach – yn wahanol iawn i Idwal. Teimlai Nefydd yn chwerw am hyn ac wrth fynd â’r bechgyn am dro ger y llyn un dydd fe wthiodd Idwal i mewn i’r dŵr, gan chwerthin am ei ben wrth iddo foddi. Roedd Owain yn gandryll ac fe alltudiodd Nefydd o’i diroedd. Yna fe enwodd y llyn ar ôl ei fab.
Mewn fersiwn arall o’r stori, mae Idwal yn dywysog o’r wythfed ganrif, yn fab i Cadwaladr, a ddioddefodd ffawd debyg. Cafodd ei lofruddio gan gystadleuydd a oedd yn chwennych ei stad.