Rhagfyr – Nadolig yn y castell

Arglwydd Anghyfraith yn chwarae yn y porthcwlis yn nigwyddiad Nadolig Canoloesol Castell y Waun
Cyhoeddwyd : 20 Nov 2016 Diweddariad diwethaf : 28 Nov 2016

Heddiw mae gennym syniad clir iawn o’r hyn rydym yn eu hystyried fel ein traddodiadau Nadolig. Efallai eich bod yn meddwl mai dyma sut y bu hi erioed, ond mae llawer o’n traddodiadau cyfoes yn dyddio’n ôl i ganol y 19eg ganrif yn unig …

Erbyn yr Oesoedd Canol, ni roddwyd fawr o bwys ar y Nadolig ei hun ym Mhrydain, a’r Pasg oedd yr ŵyl Gristnogol bwysicaf o bell ffordd. Gwelwyd newid yn ystod y 13eg ganrif pan ymledodd dylanwad ‘Dramâu’r Geni’ y Sant Ffransis o Assisi ar draws Ewrop. Gan ymgorffori caneuon mawl, cawsant eu galw yn ‘garolau’ ac fe’u cenid yn yr iaith frodorol, yn hytrach na Lladin, gan ddechrau’r adfywiad ym mhoblogrwydd y Nadolig.

Fodd bynnag, ar ddechrau’r 17eg ganrif o dan deyrnasiad Oliver Cromwell, cafodd yr arfer o ddathlu’r Nadolig â chân, chwerthin a hwyl, megis bwyta mins peis (a oedd yn cynnwys cig yn wreiddiol) eu dileu ymron yn llwyr unwaith eto, dim ond i ddychwelyd ar ôl yr Adferiad.

Heddiw byddwn yn tueddu i edrych yn ôl yn hiraethus ar Nadoligau’r gorffennol pan oeddem yn blant, gan gofio’r eira trwchus, coed Nadolig, canu carolau, bwyta a theimlad o ewyllys da i bawb. Cyflwynodd y teledu gymeriadau fel ‘Morecambe and Wise’ ac Araith y Frenhines i’r ddelwedd ‘draddodiadol’ hon, ond er mwyn canfod gwreiddiau nifer o ddelweddau ein ‘Nadolig traddodiadol’ rhaid i ni ddiolch i’r Fictoriaid – ac i Charles Dickens, yn fwyaf arbennig.

Ysgogwyd Dickens i ysgrifennu ‘A Christmas Carol’, trosiad o achubiaeth gŵr cyfoethog, yn dilyn ymweliad â Manceinion yn 1843, pan welodd effaith tlodi a diffyg addysg ar y dosbarth gweithiol oer a llwglyd: yn y stori hon, a ysgrifennodd mewn gwta chwe wythnos, cyflwynodd ddelweddau o’r Nadolig y credwn eu bod yn eiddo i ni.

Efallai y bydd llawer ohonom yn hoffi sôn am eira trwm Nadoligau ein plentyndod, ond mewn gwirionedd dim ond saith Nadolig gwyn a gafwyd ym Mhrydain er 1900! Ar y llaw arall, roedd chwech o naw Nadolig cyntaf Dickens yn rhai gwyn – gan gynnwys Nadolig 1812/13, pan rewodd afon Tafwys yn ddigon caled i gario pwysau eliffant! Anfarwolwyd Nadoligau gwyn o’r fath yn 'A Christmas Carol', ac mae rhew ac eira yn dal i fod yn elfen ganolog o’n delwedd ni o’r Nadolig perffaith – o luniau ar gardiau Nadolig, i ddynion eira wedi’u hanimeiddio a hysbysebion yr ŵyl ar y teledu!

Mae Scrooge yn gwarafun i’w glerc gael diwrnod o wyliau ar ddydd Nadolig. Heddiw rydym wedi arfer â ‘gwyliau cyhoeddus’ ond roedd y cysyniad o Ddiwrnod Nadolig fel diwrnod gwaith arferol yn gyffredin yng nghyfnod Dickens. Mewn gwirionedd, dim ond yn ystod yr ugeinfed ganrif y newidiwyd yr arferiad hwn yn ffurfiol!

Perthyn llawer o’n carolau Nadolig i’r cyfnod Fictoraidd hefyd. Ysgrifennwyd ‘We Three Kings’ yn America a’r garol hon sy’n gyfrifol am ledaenu’r myth fod y tri gŵr doeth yn bresennol ym Methlehem! Y peth mwyaf arwyddocaol ynglŷn â’r carolau hyn, fodd bynnag, yw’r ffaith y cânt eu canu yn y cartref ac nid mewn eglwys neu gapel yn unig. Roedd y Nadolig yn dod yn ddigwyddiad teuluol, yn hytrach na gŵyl grefyddol, gyfundrefnol.

Mae’r arfer o ddod â gwyrddni i mewn i’n tai ar adeg y Nadolig yn draddodiad sy’n dyddio’n ôl i’r Oesoedd Canol, a chyn hynny o bosibl, ond cafodd y syniad o’r goeden Nadolig yr ydym yn gyfarwydd ag ef heddiw, ei fewnforio gan y Teulu Brenhinol o’r Almaen, a daeth yn boblogaidd yn ystod Oes Fictoria diolch i’r Frenhines a’r Tywysog Albert.

Bydd Castell y Waun ar agor dros gyfnod y Nadolig rhwng 3 a 23 Rhagfyr, a chynhelir ein prif ddigwyddiadau canoloesol ar 10-11 a’r 17-18 Rhagfyr. Hefyd, mae gennym ddigonedd o weithgareddau crefft i greu naws yr ŵyl yn ystod mis Rhagfyr. I gael mwy o fanylion am ein holl weithgareddau Nadolig, a sut i archebu lle ar gyfer rhai o’r gweithgareddau hynny, darllenwch yr erthygl am y Nadolig yng Nghastell y Waun. 

 Os ydych yn dod i Gastell y Waun y Nadolig hwn, bydd cyfle i chi ddathlu gwir ysbryd yr ŵyl! Nadolig Llawen i bawb!