Prosiect archaeoleg cymunedol

Prosiect
Gwawr hardd yng Nghastell y Waun

Hyd yn oed ar ôl 700 mlynedd, mae sawl dirgelwch heb eu datrys yng Nghastell y Waun a’i dirwedd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil i geisio deall y castell a’r ardal o’i gwmpas yn well. Yn ystod 2015/16 penodwyd archaeolegydd preswyl yng Nghastell y Waun i edrych ar y dirwedd. Daeth o hyd i sawl hen lôn a gafodd eu defnyddio o bosibl i gario defnyddiau er mwyn adeiladu’r castell yn ogystal â systemau caeau sydd efallai yn dyddio o gyfnod cynharach na’r castell ei hun. Ar ddechrau 2017 cynhaliwyd arolwg archaeolegol o’r castell hefyd.

Mae’r arolygon hyn yn awgrymu bod llawer mwy o hanes i’w ganfod yn y dirwedd a’r castell. O ganlyniad sefydlwyd prosiect peilot byr er mwyn ceisio datrys rhai o’r dirgelion hyn. Bydd gwirfoddolwyr yn defnyddio technegau archaeolegol anymwthiol fel geoffiseg, sy’n gallu datgelu nodweddion fel waliau wedi’u claddu o dan y ddaear. 

Mae’r ardaloedd fydd yn cael eu harchwilio yn rhan o Glawdd Offa, ponc a ffos fawr y credir iddi gael ei hadeiladu gan Offa, Brenin Mercia yn yr 8fed ganrif, fel amddiffynfa yn erbyn ymosodiadau’r Cymry, yn ogystal ag ardaloedd yn union y tu allan i fynedfa’r castell er mwyn gweld a oes unrhyw olion o waliau yr hen gowrt a arferai fod yma.

Dewch yn ôl atom yn ystod yr wythnosau nesaf i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud a beth rydym wedi ei ddarganfod.

Postiadau diweddaraf

21 Jun 17

Gwneud Mwd

Gall pridd ddweud llawer iawn wrthym am y gorffennol a’r wythnos ddiwethaf cafodd ein gwirfoddolwyr gyfle i ddysgu am hyn gan Dr Fiona Grant. Gall paill, golosg, hadau a thrychfilod, i enwi dim ond rhai, gael eu cadw yn haenau’r ddaear a thrwy eu tynnu a’u harchwilio gallwn ddysgu am amgylchedd y gorffennol yn ogystal ag effaith pobl ar eu hamgylchedd a hyd yn oed beth roedden nhw’n ei dyfu ac yn ei fwyta. Fodd bynnag, er mwyn i ni ddod o hyd i unrhyw hadau ac ati, roedd yn rhaid troi ein pwced o bridd yn fwd! Ar ôl ychwanegu dŵr a’i gymysgu roedd yn rhaid rhoi’r cyfan drwy ridyll i ddal unrhyw hadau bach a golosg a allai fod yn bresennol. Ar ôl eu casglu, roedd yn rhaid edrych ar y mwd o dan y meicrosgop i weld a oeddem wedi dod o hyd i unrhyw beth a’r newyddion cyffrous yw ein bod wedi dod o hyd i ddau hadyn. Er nad ydym yn gwybod beth oedd yr hadau hyn roeddem yn gallu gweld eu bod wedi cael eu llosgi. Bydd yr holl hyfforddiant hwn yn ein helpu os ydym am wneud gwaith cloddio yn y dyfodol gan ein bod yn gwybod yn awr pa mor bwysig yw cynnal samplau o’r pridd.

Chirk Castle Community Archaeology project volunteer undergoing training on interpreting finds found in soil

17 Jun 17

Datgelu archaeoleg cudd yng Nghastell y Waun

Yr wythnos ddiwethaf bu prosiect archaeoleg cymunedol Castell y Waun yn brysur yn cynnal arolwg geoffisegol o’r ardal y tu allan i fynedfa’r castell. Mae geoffiseg yn ddull anymwthiol o gynnal arolygon ac mae’n cael ei ddefnyddio gan archaeolegwyr i edrych ar yr hyn sydd o dan y ddaear heb ddifrodi unrhyw archaeoleg. Treuliodd criw o wirfoddolwyr dewr wythnos yn y tywydd gwlyb yn cynnal arolwg y tu allan i’r castell ac mae’r canlyniadau cychwynnol yn ddiddorol. Ymddengys bod nodwedd siâp petryal ar onglau sgwâr i’r Tŵr gogledd-orllewinol (Distil) a rhai nodweddion crwn. Nid oeddem yn hollol siŵr beth oedd y nodweddion hyn, ond roeddem yn gobeithio y gallai gwaith cloddio ateb y cwestiynau, ond ai adeilad oedd y nodwedd siâp petryal? Efallai fod gan hyn rywbeth i’w wneud â’r gwaith o adeiladu’r castell? A oedd y nodweddion crwn yn awgrymu gorffennol cynhanesyddol llawer hŷn? Yn anffodus, ni all geoffiseg gynnig atebion i’r holl gwestiynau hyn ond mae’n dangos bod llawer o gyfrinachau yn aros i gael eu datgelu yng Nghastell y Waun.

This image shows geophysics resistance data for the area north of the castle

01 Jun 17

Mapio yn yr 21ain Ganrif

Yr wythnos hon bu’r gwirfoddolwyr yn dysgu am fapio yn yr 21ain ganrif gyda Jon Dollery y swyddog GIS yng Nghomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Yn hytrach na gorfod nôl cyfres o fapiau er mwyn edrych ar nodweddion, heddiw mae digon o systemau arlein sydd yn ein galluogi i wneud hynny mewn ffordd mwy hwylus. Cafodd y gwirfoddolwyr gyfle i ddysgu sut i ddefnyddio meddalwedd arlein am ddim ac allforio gwahanol fapiau, fel cyfres 50k a 25k yr Arolwg Ordnans. Ar ôl gwneud hyn fe wnaethom symud ymlaen i ddysgu am geogyfeirio. Ystyr geogyfeirio yw gosod hen fap hanesyddol ar fap modern. Mae hyn yn eich galluogi i leoli nodweddion yn nhirwedd heddiw a all ymddangos ar hen fapiau, fel adeiladau. Yn olaf, fe wnaethom ddysgu sut i gyflwyno setiau data fel LiDAR, y soniwyd amdano yn y blog yr wythnos ddiwethaf. Yma gallwn ddefnyddio’r feddalwedd arlein i edrych ar y delweddau a symud pethau fel cyfeiriad yr haul er mwyn dangos nodweddion nad ydynt yn amlwg efallai pan fydd yr haul yn disgleirio i gyfeiriad penodol. Dros y misoedd nesaf bydd y gwirfoddolwyr yn defnyddio’r hyfforddiant hwn i edrych ar fapiau hanesyddol o’r castell a’r parcdir yn ogystal â ffotograffau o’r awyr ac yn eu gosod ar y cyfrifiadur i weld ble mae’r nodweddion yn y dirwedd heddiw, cyn mynd allan i edrych arnynt yn y maes a’u cofnodi.

Community volunteers learning how to use computer mapping techniques for our community archaeology project pilot at Chirk Castle