Ffefrynnau’r gwanwyn
Mae eirlysiau a chennin Pedr wedi bod yn siglo’u pennau ochr yn ochr â harddwch blodau’r gwynt, cameliau, rhododendronau a chrafanc yr arth. Erbyn diwedd y mis bydd carped o glychau’r gog yn gorchuddio Coedwig y Gorllewin â’u lliw a’u persawr.
Mae’r tywydd oer wedi cael effaith andwyol ar rai o fy hoff blanhigion a cael a chael fydd hi nawr i’r Loropetalum chinense (blodyn eddïog Tsieina) ar ôl dioddef yn nannedd y gwyntoedd gorllewinol a gafwyd yma.
Plannu, plannu, plannu
Rydym wedi bod wrthi yn plannu fel lladd nadredd yma, gan gynnwys gwifwrnwydd y gaeaf a’r gwanwyn a bocs pêr (sarcococca). Mae’r llwyni yma yn ychwanegu elfen arall i’r ardd goediog gyda’u lliw cynnar a phersawr gogoneddus ac mi fyddan nhw’n wledd hyfryd yn y blynyddoedd i ddod i arddwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd!