


Dysgwch am hanes trist Gelert, y ci ffyddlon a roddodd ei enw i Feddgelert.
Llywelyn yr heliwr
Roedd Llywelyn Fawr, tywysog o’r drydedd ganrif ar ddeg, yn byw yn yr ardal hon. Roedd yn hoff o hela, ac roedd ganddo lawer o helgwn. Ond ei ffefryn oedd Gelert, ci a roddwyd iddo gan y Brenin John o Loegr.
Colled drasig
Un diwrnod, fe aeth y tywysog a’i dywysoges allan efo’i gilydd am ddiwrnod o hela gan adael eu babi yng ngofal Gelert. Ar ôl dychwelyd adref cawsant fraw o ddarganfod bod eu babi ar goll a bod ceg Gelert wedi’i orchuddio â gwaed.
Tynnodd Llywelyn ei gleddyf ar unwaith ac, mewn anobaith dwfn, fe laddodd ei hoff helgi. Wrth i Gelert syrthio i’r llawr, fe udodd yn uchel. Yn sydyn, clywodd Llywelyn gri babi o gornel dywyll yr ystafell yn ymateb i sŵn y ci..
Gelert yr amddiffynnwr
Rhuthrodd Llywelyn at ei fab bychan, a darganfod ei fod yn ddiogel ac heb ei anafu o gwbl. Ond wrth ei ochr gorweddai corff blaidd nerthol.Roedd Gelert wedi lladd y blaidd i amddiffyn y babi, ac yna wedi marw dan gleddyf ei feistr ei hun.
Yn llawn galar ac yn drwm ei galon rhoddodd Llywelyn gladdedigaeth seremonïol i’w helgi ffyddlon ger yr afon. Yn ôl y sôn ni wnaeth Llywelyn fyth wenu eto ar ôl hyn. Ymhen amser fe anfarwolwyd Gelert yn yr enw sydd ar y pentref heddiw - Beddgelert.