Hanes dwy ddraig

Beddgelert yw lleoliad dwy o chwedlau mwyaf cyfarwydd Cymru. Efallai mai’r enwocaf o’r ddwy yw stori Dinas Emrys, cartref uchel mynyddig y ddraig goch sy’n chwifio ar faneri Cymreig.

Adeiladu castell

Nôl yn y bumed ganrif penderfynodd Cyndeyrn, a oedd yn Frenin Celtaidd, godi castell ar fryn Dinas Emrys. Meddyliodd y byddai’n gallu dianc rhag y Sacsoniaid fan hyn, ond cafodd drafferth mawr i adeiladu ei gaer amddiffynnol.

Bob nos byddai’r seiri maen yn cadw eu hoffer, ond y bore wedyn fe fydden nhw’n dod yn ôl at eu gwaith a darganfod bod yr offer wedi diflannu a’r muriau a oedd wedi cael eu codi mor gelfydd ganddyn nhw wedi cwympo.

Aeth hyn ymlaen am amser hir iawn. Penderfynodd Cyndeyrn y byddai’n rhaid iddo gael help gan ddewiniaid a swynwyr. Eu cyngor oedd y dylid ysgeintio’r ddaear gyda gwaed plentyn a oedd wedi cael ei eni i fam ddynol a thad o’r ‘byd arall’.

Myrddin a ffau’r dreigiau

Dechreuwyd yn syth ar y gwaith o chwilio am y plentyn anarferol hwn. Daethpwyd o hyd iddo, yn y diwedd, yng Nghaer Myrddin  a gwnaethpwyd paratoadau ar gyfer yr aberth.

Ond nid plentyn cyffredin oedd Myrddin Emrys. Myrddin y dewin oedd o mewn gwirionedd. Llwyddodd Myrddin argyhoeddi Cyndeyrn fod dwy ddraig yn cysgu dan y llyn y tu mewn i’r mynydd ac mai nhw oedd yn dinistrio sylfeini ei gaer.

Ac yntau wedi ei berswadio fod y bachgen yn dweud y gwir fe roddodd Cyndeyrn orchymyn i’w ddynion i gloddio’n ddwfn i’r mynydd. Ac yn wir  i chi, fe wnaethon nhw ddarganfod y llyn tanddaearol, yn union fel yr oedd Myrddin wedi’i ddarogan.  Unwaith y cafodd ei ddraenio, fe ddeffrodd y dreigiau coch a gwyn a oedd yn cysgu yno a dechrau ymladd.

Brwydr y ddwy ddraig

Cerddwch yn ofalus os fyddwch chi’n crwydro ar hyd bryn Dinas Emrys,Mae draig, efallai, yn dal i gysgu yno o hyd!
Brwydr y dreigiau gwyn a coch

Ymhen hir a hwyr fe ffodd y ddraig wen a dychwelodd y ddraig goch yn ddistaw i’w ffau.

Fe adeiladwyd castell Cyndeyrn yn y diwedd. Rhoddwyd yr enw ‘Dinas Emrys’ arno, er anrhydedd i Fyrddin Emrys, ac mae’r ddraig goch wedi cael ei dathlu byth ers hynny.

Heb eich argyhoeddi? Yn 1945 fe gloddiwyd y safle gan archeolegwyr ac fe ddarganfuwyd llyn a gweddillion caer yn dyddio’n ôl i amser Cyndeyrn.  Roedd yn ymddangos fod y muriau wedi cael eu hailadeiladu sawl gwaith…

Cerddwch yn ofalus os byddwch yn crwydro ar hyd y bryn hwn. Mae ‘na ddraig ,efallai, yn cysgu yno o hyd!