Glaswelltiroedd mwy cyfoethog
Dim ond pedwar cae ‘wedi’u gwella’ sydd yn Llyndy – ar y cyfan, mae caeau sydd wedi’u gwella’n lliw gwyrdd iraidd ond nid ydynt yn gyfoethog iawn o ran amrywiaeth y glaswelltydd. Mae'r caeau hyn o dan bwysau i dyfu porthiant i'r anifeiliaid dros y gaeaf, glaswellt i'w bori dros gyfnod wyna a glaswellt da i’w bori er mwyn pesgi. Ond does dim angen i gynhyrchiant, pridd iach ac amrywiaeth fod yn bethau ar wahân.
Eleni, rydym yn mynd i hau 'gwndwn llysieuol' (herbal ley) sy'n gyfuniad cymhleth o laswelltydd, codlysiau a pherlysiau y gellir ei ddisgrifio fel 'cyfuniad o fasnachwr gwrtaith, cynhyrchydd bwyd a milfeddyg’! Bydd y cyfuniad cyfoethocach o laswelltydd yn helpu i wella ansawdd y pridd, sicrhau bod mwy o fwynau ar gael i’r anifeiliaid, a gwneud y caeau hyn yn fwy amrywiol.
Gwneud lle ar gyfer byd natur
Mae llygod pengrwn y dŵr wedi gweld mwy o ostyngiad yn eu niferoedd na bron unrhyw famal gwyllt arall ym Mhrydain yn ystod yr 20fed ganrif. Ar dir amaethyddol, maent wedi colli cynefinoedd gan fod mwy o laswelltir yn cael ei dorri i gynyddu cynhyrchiant. Felly, yn Llyndy, mae llawer o gaeau sydd ger cwrs dŵr wedi’u gadael heb eu torri, gan roi cyfle i lygod pengrwn y dŵr dyrchu trwy’r cyrs a bwyta’r brwyn. Ychydig o anifeiliaid a roddir i bori yno ar y tro hefyd rhag iddyn nhw stompio.