Cerdded Nant Gwynant yn yr hydref
Ewch allan yr hydref hwn a chrwydro llethrau isaf yr Wyddfa a Nant Gwynant er mwyn darganfod tirwedd yn gyforiog o hanes a lliwiau cyfoethog.
Cerdded drwy lennyrch coediog mewn dyffryn tawel
Ewch o dan nenfwd cringoch coetir derw, gan gadw golwg am ffwng diddorol ar y daith. Ewch i fyny Llwybr enwog Watkin drwy gaeau agored o wyrdd ysgafn a lliw rhwd rhedyn gwyw yng Nghwm Llan. Pasiwch afeilion diddorol tŷ Cwm Llan ac ewch yn eich blaen i Graflwyn, gan chwilio am y geifr gwyllt wrth iddyn nhw ddechrau dod i lawr o’r llethrau i chwilio am gysgod yn y llennyrch coediog.

Dechrau:
Maes parcio Bethania, Llwybr Watkin, cyfeirnod grid: SH627506
1
O faes parcio Bethania (oddi ar yr A498) ymunwch â Llwybr Watkin. Ewch drwy’r coetir derw am Gwm Llan.
Hafod y Llan
Mae Llwybr Watkin yn codi drwy Gwm Llan, gyda Chlogwyn Brith ar y chwith. Cafodd y llwybr ei greu gan Syr Edward Watkin ym 1892 ac mae’n un o’r chwe llwybr i fyny’r Wyddfa. Mae’n denu 50,000 o gerddwyr bob blwyddyn.
2
Unwaith y byddwch wedi gadael y coetir, dilynwch y llwybr graean nes cyrraedd arwyddbost, sy’n eich cyfeirio i’r de-orllewin ar lwybr at Fylchau Terfyn.
3
Daliwch i fynd ar y llwybr graean nes cyrraedd arwyddbost, sy’n eich cyfeirio i’r de-orllewin ar lwybr at Fylchau Terfyn.
4
Dilynwch y llwybr sydd wedi ei arwyddo drwy’r dyffryn tawel hwn. Byddwch yn cyrraedd wal arall o fewn tri chwarter milltir (1.2km). Ar ôl mynd dros y wal a thrwy’r grug byddwch wedi cyrraedd man uchaf y daith.
Tŷ Cwm Llan
Mae tŷ Cwm Llan yn un o nifer o adfeilion yn y dyffryn hwn. Rydym yn ymdrechu’n galed i’w gwarchod am eu bod nhw’n rhoi cip ar ddefnydd tir a dulliau ffermio’r gorffennol.
5
Wrth i chi gerdded i lawr y llwybr, byddwch yn cyrraedd hen ffordd drol. Ewch ar ei hyd nes cyrraedd camfa. Ar ôl croesi’r gamfa, trowch ar eich union i’r dde tua’r afon. Croeswch yr afon gan gymryd gofal ar y cerrig camu ac ymlaen â chi nes cyrraedd camfa arall.
Geifr gwyllt
Wrth ddod i lawr, cadwch lygad ar agor am eifr gwyllt; maen nhw’n tueddu i chwilio am gysgod yn y llennyrch coediog ar y llethrau ddiwedd hydref.
6
Ar ôl croesi’r gamfa, dilynwch y llwybr sydd wedi ei arwyddo i lawr at Craflwyn a phen y daith.
Diwedd:
Craflwyn, cyfeirnod grid: SH628507