Eisteddwch yn yr Ystafell Filiards a gafodd ei hychwanegu at y tŷ gwreiddiol ym 1857. Mwynhewch ein hamrywiaeth o fwyd poeth ac oer, byrbrydau, bwyd pob a hufen iâ.
Mae gennym amrywiaeth ddethol o ddiodydd poeth ac oer, gan gynnwys ein coffi masnach deg, o ffynonellau moesegol, sydd wedi’i flendio’n arbennig ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Os byddai’n well gennych eistedd y tu allan, ymlaciwch yn ein cwrt allanol y tu flaen i Dŷ Newton (sylwch mai dim ond amrywiaeth ddethol sydd ar gael wrth y ffenestr weini). Yn ystod misoedd yr haf mae’n bosibl y byddwch yn gweld ceirw yn y parc a Gwartheg Parc Gwynion yn y cae blaen.
Bwydlen Plant
I’r rhai ifanc, gallwn gynnig pecyn plant sy’n cynnwys brechdan, diod a byrbrydau. Mae’r pecynnau ailgylchadwy hefyd yn cynnwys gweithgareddau i ddifyrru’r plant.