Gwyn ei fyd!

Y tarw newydd
Cyhoeddwyd : 31 May 2017 Diweddariad diwethaf : 30 May 2017

Mae’r tarw yma’n teimlo’n wyn ei fyd achos mae wedi cyrraedd Dinefwr heddiw (Mai 31 2017) i achub eu gyr o Wartheg Parc Gwynion ar gyfer y dyfodol.

Quattro yw’r tarw newydd y mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi ei ddewis, sy’n cydweddu â’i gyr o wartheg hynafiadol er mwyn cadw’r gyr yn iach a ffyniannus.

Gyda’u cotiau gwynion nodweddiadol a’u trwynau a chlustiau duon, mae’r Gwartheg Parc Gwynion wedi byw yn Ninefwr am dros fil o flynyddoedd ac mae gan y tarw newydd gyfrifoldeb i fynd ar gefn buches o bron i 80 o fuchod a’u lloi.

Gyr chwedlonol

Mae cofnodion o’r brîd eiconig hwn yn Ninefwr yn dyddio nôl i’r flwyddyn 920 ac mae sôn amdanyn nhw yng nghyfreithiau Hywel Dda.

Y tu hwnt i’w pwysigrwydd hanesyddol, mae’r gwartheg hefyd yn chwarae rhan ganolog yn rheolaeth lwyddiannus Dinefwr, gan warchod y tir drwy bori. Mae’r brîd yn ddelfrydol ar gyfer natur y tir ac felly’n darparu’r dull mwyaf naturiol ac effeithiol o reoli y gweirgloddiau blodau gwyllt.

Dim ond rhyw fil o fuchod magu sydd ar ôl yn y byd
Gwartheg Gwynion y Parc
Dim ond rhyw fil o fuchod magu sydd ar ôl yn y byd

Y tarw newydd

Dywedodd Rhodri Thomas, sydd wedi bod yn hyfforddi i gymryd yr awenau fel y prif Stocmon, “Mae disgwyl mawr wedi bod am y tarw newydd. I gadw llinach Dinefwr ro’n ni’n chwilio am darw Parc Gwyn pedigrî ac ry’n ni’n hapus iawn i ddweud bo’ ni wedi dod o hyd i hynny yn Quattro.’

‘Bydd hi’n cymryd hyd ar bedwar mis iddo fynd ar gefn y fuches gyfan ac fe fyddwn yn darganfod pa mor llwyddiannus fuodd e gwanwyn nesa.’

Efallai bydd ymwelwyr yn sylwi bod gan Quattro, yn wahanol i’r Gwartheg Parc Gwynion eraill, glustiau duon ond dim pwyntiau duon, sy’n golygu ei fod yn fwy tebygol o genhedlu lloi gwyn na lloi duon.

Daw’r tarw ifanc o gyr o Wartheg Parc Gwynion a fagwyd yn Nyfnaint, ond yn Ninefwr mae hanes ei deulu. Mae paentiad o’i Hen Fam-gu, Dynevor Phoenix 4ydd, yn hongian uwchben y lle tân yn yr ystafell de yn Nhŷ Newton, ac fe fagwyd ei dad-cu, Dinefwr Ivan, ar y tir.

Cefnogaeth Frenhinol

Yn ystod mis Chwefror fe gyhoeddodd Ei Fawrhydi Tywysog Cymru, sydd wedi bod yn Llywydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers 2003 a Noddwr yr Ymddiriedolaeth Parhad Bridiau Prin am dros 40 mlynedd, rodd hael i’r ymgyrch i Achub Gyr Dinefwr.

Dywedodd llefarydd ar ran Clarence House, “Roedd Ei Fawrhydi wrth ei fodd yn gweld pa mor dda oedd Gwartheg Parc Gwyn Dinefwr yn dod yn eu blaen yn ystod ei ymweliad cofiadwy â’r parc. Bydd Ei Fawrhydi yn falch iawn eu bod wedi cael tarw newydd o’r diwedd i helpu parhau datblygiad y gyr a llwyddiant wrth fridio.’

Gyda’r gefnogaeth Frenhinol a rhoddion gan y cyhoedd mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cyrraedd hanner ffordd tuag at y £36,000 oedd eu hangen i sicrhau bod y brîd arbennig hwn o wartheg yn ffynnu yn Ninefwr, ynghyd â’r dirwedd a’r cynefinoedd y maen nhw’n eu gwarchod.

Gall ymwelwyr weld y gwartheg rhwng Ebrill a diwedd Hydref yn y prif gae o flaen Tŷ Newton bob dydd, gyda teithiau trelar tractor i allu closio atyn nhw’n well yn ystod gwyliau ysgol.