Hanes Rhufeinig Dolaucothi

Plentyn mewn gwisg Rufeinig

Wrth ddod mewn i’r maes parcio ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, efallai na wnewch chi sylwi ar unrhyw beth anghyffredin. Fe welwch chi’r mwynlawr ar ochr y bryn uwch eich pen. Mae’n bosib y byddwch chi’n sylwi ar y goedwig sy’n edrych fel tonnau o gylch y safle. Neu efallai mai’r bryniau bychain hwnt ac yma fydd yn denu’ch llygad. Ond eto, nid yw pethau’n union fel maen nhw’n ymddangos….

Mae’r mwynlawr (neu’r iard) yng nghanol yr ardal sy’n cael ei galw’n ‘Ogofau’. Fan hyn yr oedd y gwaith cloddio brig mwyaf ar y safle, a’r Rhufeiniaid oedd y cyntaf i’w weithio. Mae’r coetir uwchben yn tonni oherwydd ei fod yn cynnwys llawer mwy o byllau a ffosydd; cafodd rhain hefyd eu cloddio gan y Rhufeiniaid, wrth iddyn nhw chwilio’n frwd am aur.

Y bryniau bach sydd ar wasgar o gylch y safle yw tomenni gwastraff y gwaith mwyngloddio . Lle bynnag ry’ch chi’n edrych, mae Dolaucothi wedi’i lunio gan olion gwaith y gorffennol. 

Dechrau gyda’r Rhufeiniaid

Rhwng 70 OC ac 80 OC, dechreuodd y Rhufeiniaid gloddio’n helaeth am y tro cyntaf yn Nolaucothi, gan greu gwaith mwyngloddio agored a thyllu nifer o dwneli (ceuffyrdd) i archwilio’r gwythiennau aur.

Cyflawnwyd y rhan fwyaf o hyn gyda chaib a morthwyl. Byddai’r gwaith wedi bod yn hynod o anodd a chaled. Mae rhai o farciau gwreiddiol y ceibiau, sydd bron yn 2,000 o flynyddoedd oed, i’w gweld o hyd yn y ceuffyrdd sy’n rhan o’r Daith Rufeinig.

Dyfrffyrdd Clyfar

Cyflwynodd y Rhufeiniaid ddatblygiadau eraill technolegol eraill hefyd, wrth iddyn nhw ddyfeisio system o ddyfrffyrdd i ddod â dŵr o afonydd lleol i’r mwyngloddiau. Roedd cyfres o ddyfrffosydd  (‘leats’ yw’r gair Saesneg amdanyn nhw) yn cludo dŵr er mwyn golchi’r uwchbridd i ffwrdd ac yna i olchi’r mwyn ar ôl ei falu.

Gellir gweld y dyfrffosydd hyn, yn ogystal â gweddillion y tanciau dŵr oedd wedi eu cysylltu â rhai ohonyn nhw, yn ystod y Daith Rufeinig. 

Dod a diflannu

Does neb yn gwybod sut y daeth y Rhufeiniaid i glywed am Ddolaucothi. Ond ry’n ni’n gwybod mai presenoldeb metelau gwerthfawr yng nghreigiau Prydain, a Chymru’n arbennig, oedd y rheswm pam y gwnaethon nhw oresgyn y rhan hon o’r byd.

Ry’n ni hefyd yn gwybod eu bod nhw wedi sefydlu caer o fewn ardal sy’n cwmpasu pentref Pumsaint, ar ôl cyrraedd Sir Gaerfyrddin yn y 70au OC a’u bod nhw wedi dechrau cloddio yn fuan wedi hynny.

Ond dim ond am amser byr yr arhosodd y Rhufeiniaid yn yr ardal. Yn 125 OC fe adawodd y rhan fwyaf o’r milwyr, ond mae ‘na dystiolaeth fod rhywfaint o weithgaredd Rhufeinig wedi parhau yn yr ardal gan i ddarnau arian Rhufeinig o ddiwedd y bedwaredd ganrif gael eu darganfod yma.