Skip to content
Buwch yn sefyll ar ochr bryn yn edrych tua’r camera, gyda choed, bryniau a haul yn machlud yn y cefndir ar Ystâd Dolaucothi ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, Sir Gâr
Buwch ar Ystâd Dolaucothi ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi | © National Trust Images/Andrew Butler
Wales

Iard Gloddio a Llwybr y Mwynwyr

Ar y llwybr cymedrol hwn byddwch yn cerdded yn ôl traed cloddwyr aur drwy’r oesoedd, o fynedfeydd y gloddfa a ddefnyddiwyd gan y Rhufeiniaid i adfeilion y felin brosesu a ddefnyddiwyd yn y 1930au. Mae golygfeydd gwych a pheiriannau anarferol i’w mwynhau ar hyd y daith.

Cyfanswm y camau: 9

Cyfanswm y camau: 9

Man cychwyn

Maes parcio Coetir Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, cyfeirnod grid: SN662403

Cam 1

Cerddwch allan drwy brif fynedfa maes parcio’r coetir a throwch i’r dde i’r ffordd un trac. Wrth y gyffordd, trowch i’r chwith, gan ddilyn yr arwydd ar gyfer Caio. Cerddwch i fyny’r rhiw nes i chi ddod at set o risiau’n arwain i lawr i’r chwith, gyda gât pum bar i’r dde ohonoch.

Cam 2

Ewch drwy’r gât pum bar a dilynwch y trac drwy’r goedwig. Byddwch yn pasio rhai o gloddfeydd hynaf Dolaucothi, a ddefnyddiwyd gan y Rhufeiniaid i echdynnu aur.

Cam 3

Dilynwch y llwybr i’r Fynedfa Rufeinig Uchaf (mynedfa sgwâr i’r gloddfa, i’r dde ohonoch). Ewch heibio i fynedfa’r gloddfa, i fyny rhai grisiau, a fydd yn mynd â chi dros ben y gloddfa. Dilynwch y llwybr nes i chi gyrraedd gât fach at ddôl.

Cam 4

Ewch drwy’r gât a cherddwch ar draws y ddôl.

Cam 5

Ar ôl cyrraedd lôn wedi’i tharmacio, croeswch hi i mewn i’r cae o’ch blaenau. Yma fe welwch sylfeini’r felin brosesu o’r 1930au. Dyma lle roedd y mwyn yn cael ei gludo i’w brosesu i echdynnu’r aur.

Cam 6

Ar waelod y cae, ewch drwy gât fechan yn ôl i’r lôn wedi’i tharmacio. Dilynwch y lôn i lawr i’r grid gwartheg ar y gwaelod. Ewch drwy’r gât wrth ochr y grid gwartheg a cherddwch i’r gyffordd lle mae ffordd un trac. Trowch i’r dde wrth y gyffordd.

Cam 7

Dilynwch y ffordd am ychydig fetrau a chroeswch y bont bren fechan dros ffos i’r chwith. Mae’n eich arwain drwy weddillion y barics, a adeiladwyd i gartrefu’r cloddwyr yn y 1930au.

Cam 8

Dilynwch y llwybr drwy’r barics tan i chi gyrraedd y gyffordd â llwybr creigiog. Trowch i’r chwith i’r llwybr, sy’n hen ffordd porthmyn. Dilynwch y llwybr i lawr, heibio i fynedfa cloddfa i’r dde ohonoch. Dilynwch y trac nes i chi gyrraedd y gyffordd rhwng y trac a ffordd un trac.

Cam 9

Trowch i’r chwith i’r ffordd un trac a’i dilyn nes eich bod yn ôl ym Maes Parcio’r Coetir (bydd y fynedfa i’r dde ohonoch, ychydig wedi mynedfa’r safle Carafannau).

Man gorffen

Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, cyfeirnod grid: SN662403

Map llwybr

Map yn dangos llwybr a grisiau Ffordd y Cloddiwr yn Nolaucothi
Iard Gloddio a Llwybr y Mwynwyr | © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey

Dyna ni, da iawn chi

Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Ymwelwyr yn paratoi i fynd i’r pwll ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, Sir Gâr.
Lle
Lle

Dolaucothi 

Pull on your boots and discover the UK’s only known Roman Gold Mine | Ewch i wisgo eich bŵts a darganfod unig Fwynglawdd Aur Rhufeinig hysbys y DU.

Llanwrda, Carmarthenshire

Yn rhannol agored heddiw
Golygfa o barcdir gwyrdd gyda choed mawr yn eu dail
Llwybr
Llwybr

Taith gerdded Parcdir Dolaucothi 

Crwydrwch y parcdir o gwmpas Dolaucothi ar y daith gerdded rwydd hon, gan fwynhau tiroedd y plasty a llwybrau glan afon, gyda chlychau’r gog yn y gwanwyn a ffyngau yn yr hydref.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Golygfa o lwybr coetir priddlyd yn Nolaucothi, wedi’i amgylchynu gan goed llawn dail yn Sir Gâr, Cymru
Llwybr
Llwybr

Llwybr Coetir Dolaucothi 

Cerddwch drwy goetiroedd hyfryd, gan ddilyn llwybrau a ddefnyddiwyd ‘slawer dydd gan geffylau’n llusgo pren. Darganfyddwch hanes Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, pentref Pumsaint a’r hen blas wrth fynd.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 3 (km: 4.8)
Golygfa o’r awyr o gefn gwlad, caeau a choedwigoedd gyda’r coed yn dechrau dangos lliwiau’r hydref
Llwybr
Llwybr

Llwybr Ystâd Dolaucothi 

Dilynwch ôl traed hynafol y Rhufeiniaid ar hyd glannau Afon Cothi a dringwch i bwynt uchaf Ystâd Dolaucothi am olygfeydd trawiadol dros Bumsaint a’r dyffryn ehangach.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 4.4 (km: 7.04)

Cysylltwch

Pumsaint, Llanwrda, Carmarthenshire, SA19 8US

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Dwy ferch yn cerdded ar lwybr trwy'r goedwig yn Stad Southwood, Sir Benfro yng Nghymru

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Llwybr coetir wedi’i orchuddio gan ddail, gyda choed yn hongian drosto ar y naill ochr yn creu twnnel o ganghennau coed ar Ystâd Dolaucothi ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, Sir Gâr.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ystâd yn Nolaucothi 

Gyda dros 2,500 erw o ystâd, coetir, ffermydd a pharcdir i’w darganfod, mae cymaint mwy i Ddolaucothi yn Sir Gâr na’r mwyngloddiau Rhufeinig.

Visitors walking through the sheltered valley at Lockeridge Dene and Piggledene, near Marlborough, Wiltshire
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Dolaucothi gyda’ch ci 

Mae gan Ddolaucothi sgôr o un bawen. Mae croeso cynnes i gŵn ym mhob rhan o Ddolaucothi, o’r teithiau o’r gloddfa aur Rufeinig i’r milltiroedd o lwybrau cerdded sy’n cris-croesi’r ystâd ehangach.

Cerddwr yn sefyll ar arfordir Sir Benfro, yn edrych allan ar y môr
Erthygl
Erthygl

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru 

Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.  

A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Walkers climbing rocks against a bright blue sky with the mountains in the distance at Sugarloaf, Monmouthshire

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)